YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 4

4
PENNOD IV.
1Gwrandewch air yr Arglwydd, blant Israel,
Gan fod dadl gan yr Arglwydd â thrigolion y wlad;
Am nad oes gwirionedd, na thrugaredd,
Na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad:
2Tyngu, a chelwydda, a lladd,
Lladrata hefyd a godinebu, a dorasant allan,
A gwaed a gyffyrddodd â gwaed.#4:2 Pa gofrestr o ddrygau! Yr oeddynt yn tori allan, fel yr arferir y gair weithiau, fel llifeiriant, ac yn ymdaenu dros yr holl wlad; a gwaed oedd yn dilyn gwaed fel ffrwd ddïymdor; lladdiad ar ol lladdiad yn barhaus. Mae geiriad yr Hebraeg a’r Gymraeg yn cydweddu yma yn hollol: y parwyddiadau, yn eu llun gwreiddiol, yn sefyll fel sylweddeiriau.
3O herwydd hyn y galara y wlad,
A nycha pob trigiannydd ynddi,
Ynghyd â bwystfil y maes ac adar y nefoedd;
A physg y môr hefyd a ddyfethir.
4Eto dyn ni rybuddia ac ni cherydda ddyn;
A’th bobl ydynt megys yn amddiffynwyr#4:4 Y gair am amddiffynwyr sydd â’r ystyr hyn iddo, ac nid “ymrysonwyr,” oddieithr y canlynir ef â rhagosodydd. Gwel Esay 1:17. Y mae yno, fel yma, “dadleuwch dros (neu, amddiffynwch) y weddw.” Ni weinyddai yr offeiriaid, na neb arall, gerydd: a hyn a amddiffynid gan y bobl. Gwelwn y cyffelyb beth yn cael ei nodi gan Ier. 5:31. yr offeiriaid.
5Ond syrthio a wnai y dydd,
A syrthia hefyd y prophwyd gyda thi yn y nos,#4:5 Pan ddelai aflwydd — “nos,” syrthiai y gau-brophwyd a addawai heddwch, yn nghyd âg eraill, heb wahaniaeth: a syrthiant yn y “dydd,” sef pan na byddant yn meddwl am aflwydd.
A dyfethu a wnaf dy fam.#4:5 “Fam” — y genedl fel teyrnas, neu y famddinas, Samaria.
6Dyfethir fy mhobl o eisieu gwybodaeth;
Gan wrthod o honot wybodaeth,#4:6 MISSING
Felly gwrthodaf di o fod yn offeiriad i mi;
Ac am i ti anghofio deddf dy Dduw,
Anghofio dy blant di a wnaf finnau.#4:6 Cyfeiria y ddwy linell hyn at y bobl, a’r ddwy flaenorol at yr offeiriaid.
7Yn ol eu lliosogiad, felly y pechasant i’m herbyn;
Eu gogoniant a droaf i warth.#4:7 Eu “gogoniant” oedd eu nifeiri; ond fel yr oeddynt yn lliosogi, yr oeddynt yn lliosogi eu pechodau.
8Pech-aberth fy mhobl a fwytânt,
Ac at eu hanwiredd y dyrchafant eu calon.#4:8 Cefnogai yr offeiriaid y bobl i bechu, fel y byddent i ddwyn ychwanegol aberthau! Dyrchafu y galon yw dymuno.
9A bydd megys y bobl, felly yr offeiriad;
Ïe, ymwelaf arno ei ffyrdd,
A’i weithredoedd a ddychwelaf iddo:
10Canys bwytânt, ond nis digonir hwynt;
Puteiniant, ond ni chynnyddant,
Oblegid wrth yr Arglwydd gommeddasant gadw.#4:10 Yr oeddynt yn aberthu i Dduw ac yn aberthu i eilunod. Ymadael â Duw oedd hyn.
11Puteindra, a gwin, a gwin newydd,
Dygant ymaith y galon.#4:11 “Puteindra,” — eilun-addoliaeth, a gloddesta yn nhemlau eilunod, oeddynt yn dwyn ymaith y galon oddiwrth Dduw.
12Fy mhobl — gan eu pren#4:12 Sef y ddelw a wnaed o bren. y gofynant,
A’u ffon#4:12 Arferid ffyn er dewinio: ysgrifenid ar un, “gorchymyna Duw;” ac ar y llall, “gwarafuna Duw.” Ac yn ol y ffon a ddygwyddai iddynt, y gweithredent. — traetha iddynt;
O herwydd ysbryd puteindra a’u gwyrdrôdd,
A phuteiniasant, gan ymadael â’u Duw;
13Ar benau mynyddoedd yr aberthant,
Ac ar fryniau yr arogldarthant,
O tan y dderwen a’r aethnen a’r llwyfen,
Gan mai hyfryd eu cysgod:
O herwydd hyn, puteinia eich merched,
A’ch gwragedd — godinebant:
14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont,
Nac â’ch gwragedd pan odinebont;
Oblegid hwy eu hunain — gyda phuteiniaid yr ymddidolant,
A chyda hoedenod#4:14 “Sancteiddesau” yw y gair; sef benywod a gysegrent neu a ymroddent i buteindra fel gweithred grefyddol i dduwies anlladrwydd, a elwid Astarte yn y dwyrain, a Venus yn y gorllewin. yr aberthant;
A’m pobl na ddeallant a ddadymchwelir.
15Os puteiniaist ti, Israel,
Na throsedded Iowda:
Nac ewch i Gilgal,
Nac esgynwch chwaith i Bethafan,
Ac na thyngwch, “Byw yw’r Arglwydd.”#4:15 Gwarafunir yma y pethau hyn ynghyd. Tyngu i’r Arglwydd, neu broffesu ei enw, oedd beth da ynddo ei hun, ond nid mewn cysylltiad âg eilun-addoliaeth.
16Fel anner wrthdyn y gwrthdynodd Israel;
Yn awr portha’r Arglwydd hwynt fel oen mewn ëang le.#4:16 Bygythir eu danfon i gaethglud, megys oen a dröir allan i’r anialwch, lle nad oes fugail i ofalu am dano.
17Yn glynu wrth eilunod y mae Ephraim, gâd iddo:
18Gwrthdrôdd hwynt eu diod gadarn;
Gan buteinio y puteiniasant;
Gan garu carodd ei hamddiffynwyr warth.#4:18 Dyma yr ystyr oreu a röir gan esbonwyr, a gwna lai o gyfnewid nag un arall ar y geiriau fel eu ceir yn bresennol. Y “gwarth” oedd ddelw-addoliaeth, a’r “amddiffynwyr,” neu “tarianwyr,” oedd y gwŷr mawr, y tywysogion.
19Rhwymodd y gwynt hi yn ei adenydd;#4:19 Y genedl a feddylir; a dywed am dani fel yn ngafael rhyferthwy o wynt, er ei chludo ymaith o’i gwlad ei hun; ac yna y byddai cywilydd ganddi o herwydd ei haberthau i eilunod. Dywed am dani fel yn bresennol yn rhwym gan y gwynt, er am yr hyn a ddygwyddai y llefara.
A chywilyddiant o herwydd eu haberthau.

Currently Selected:

Hosea 4: CJO

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in