YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad Ieremia 5

5
PENNOD V.
1Cofia, Iehofa, beth a ddaeth i ni,
Edrych a gwel ein gwaradwydd.
2Ein hetifeddiaeth, trowyd hi i estroniaid,
Ein tai i ddyeithriaid!
3Yn amddifaid yr aethom, heb dad;
Ein mamau ydynt fel gweddwon.#5:3 Mae’n debygol mai cyflwr y rhai a adawyd yn y wlad a alara yn fwyaf neillduol yn y bennod hon. Yr oedd tadau amryw a adawyd yn y wlad wedi eu caethgludo, a gwŷr rhai o’r gwragedd; am hyny y dywed eu bod fel gweddwon, ac nid yn wirioneddol yn weddwon. Cymhwys i’r cyfryw yw y geiriau pan ddywed, “Ein dwfr,” y dwfr o iawn a berthynai iddynt, ac, “ein coed,” &c. Nis gellir dywedyd hyn am y caethion yn ngwlad Babilon.
4Ein dwfr, am arian yr yfasom,
Ein coed, am werth y daw i ni:
5Ar ein gwarau yr erlidir ni,#5:5 Sef, eu bod yn cael eu herlid yn agos, yr oeddent ar eu gwarau.
Ni a flinir, nid oes i ni orphwys.
6I’r Aiphtiaid y rhoddasom law,
I’r Assyriaid, er cael ein diwallu â bara.#5:6 Rhoddent faw, neu estynent law, fel y gwna cardotyn am elusen.
7Ein tadau, pechasant ac nid ydynt,
Nyni, eu cosb a ddygwn:
8Gweision a lywodraethasant arnom;
Gwaredydd, nid oes o’u llaw.
9A’n bywyd y ceisiasom ein bara,#5:9 Sef, “â’n bywyd mewn perygl.” Annhrefn fawr oedd yn y wlad wedi caethgludo y rhan fwyaf o’r bobl. Yspeilwyr a lladron yn ddiau a lochesent yn anial leoedd y wlad.
O herwydd cleddyf yr anialwch.
10Ein croen, fel ffwrn y duodd,
O herwydd gerwinderau y newyn.
11Gwragedd yn Sion a ostyngwyd,#5:11 Sef, a dreisiwyd: gair gwyleddus am weithred anfad.
Morwynion yn ninasoedd Iowda:
12Tywysogion, wrth eu llaw a grogwyd;#5:12 Yr oedd hyn yn fodd o arteithio nad oedd arferol, yn dynodi creulondeb eu gormeswyr.
Wynebau henafgwyr nid anrhydeddwyd.
13Y gwŷr ieuanc a gymerasant i falu,#5:13 Arferent gaethforwynion i falu: yr oedd gan bob teulu ryw fath o felin fechan, a ddefnyddid yn gyffredin fel y peth cyntaf yn y bore. Arferyd “plant” yn lle dynion ac anifeiliaid i gludo coed, oedd greulondeb mawr; syrthient tan eu beichiau.
A’r plant, tan y coed y syrthiasant.
14Yr henafgwyr, o’r porth y peidiasant;
Y gwŷr ieuanc, oddiwrth eu cerdd.#5:14 Y “porth” oedd y lle yr eisteddai henafgwyr, fel barnwyr, i benderfynu achosion a ddygid o’u blaen. Nid oedd hyn mwy yn Iowda. “Cerddori” oedd yn arferiad gan ieuenctyd; nid oedd hyn mwyach.
15Darfu gorfoledd eu calon,
Trodd yn alar eu pibellu,
16Syrthiodd coron ein pen,#5:16 “Coron y pen” oedd yr anrhydedd a berthynai i’r genedl fel pobl yr Arglwydd. Collasant hon trwy bechu.
Gwae yn awr sydd i ni o herwydd pechu.
17Am hyn llewygodd ein calon,
Am y pethau hyn tywyllodd ein llygaid —
18Am fynydd Sïon, sydd anghyfannedd,
A llwynogod a rodiasant arno.#5:18 Sonia yn gyntaf am un peth, “am hyn,” sef anghyfannedd-dra mynydd Sïon; ac yn yr ail le am ddau beth, “am y pethau hyn,” sef, fod y mynydd nid yn unig yn anghyfannedd, ond bod hefyd “llwynogod” yn v mwy ar hyd-ddo: yr oedd bwystfilod y maes yn ei berchenogi.
19Ti, Iehofa, dros byth yr eisteddi,#5:19 Sef, fel barnydd: dyma sefyllfa barnwr.
Dy orseddfa sydd dros oesoedd:
20Pam yn barhâus yr anghofi ni,
Y gadewi ni dros hir ddyddiau?
21Dychwel ni atat, Iehofa, fel y dychwelom;#5:21 Dychwelyd at Dduw oedd yn anghenrheidiol tuag at ddychwelyd i feddiant y breintiau a gollasent.
Adnewydda ein dyddiau megys cynt:
22Canys yn ddiau gan wrthod gwrthodaist ni,
Ffromaist wrthym yn ddirfawr.

Currently Selected:

Galarnad Ieremia 5: CJO

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in