1 Corinthiaid 11:23-24
1 Corinthiaid 11:23-24 BNET
Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe’n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”