1 Corinthiaid 6:19-20
1 Corinthiaid 6:19-20 BNET
Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi’n deml i’r Ysbryd Glân? Mae’r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi’i roi’n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd; mae pris wedi’i dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw.