YouVersion Logo
Search Icon

Daniel 12

12
Rhan pedwar: y meirw yn dod yn ôl yn fyw
1Bryd hynny bydd Michael yn codi –
yr arweinydd mawr sy’n gofalu am dy bobl.
Bydd amser caled – gwaeth na dim
mae’r wlad wedi’i brofi erioed o’r blaen.#Jeremeia 30:7
Ond bydd dy bobl di yn dianc –
pawb sydd â’i henwau wedi’u hysgrifennu yn y llyfr.
2Bydd llawer o’r rhai sy’n gorwedd yn farw,
wedi’u claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro –
rhai i fywyd tragwyddol
ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd.#Eseia 66:24
3Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd.
Bydd y rhai sy’n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw
yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.
4“Rhaid i ti, Daniel, gadw’r neges yma’n gyfrinachol a selio’r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy’n digwydd.”
Y diwedd
5Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i’r afon. 6Dyma un ohonyn nhw’n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwchben yr afon, “Pryd mae’r pethau mawr yma’n mynd i ddigwydd?” 7A dyma’r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwchben yr afon, yn codi ei ddwy law i’r awyr ac yn tyngu ar lw i’r Un sy’n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod.#Daniel 7:25 Wedyn pan fydd grym yr un sy’n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”
8Rôn i wedi’i glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi’n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?” 9Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae’r neges yma i’w gadw’n gyfrinachol ac wedi’i selio nes bydd y diwedd wedi dod. 10Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a’u coethi drwy’r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy’n digwydd. 11O’r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a’r eilun ffiaidd sy’n dinistrio#Daniel 9:27; 11:31; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54) yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau. 12Mae’r rhai sy’n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi’u bendithio’n fawr.
13“Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw’r diwedd, byddi di’n codi i dderbyn dy wobr.”

Currently Selected:

Daniel 12: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in