YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 10:21-23

Exodus 10:21-23 BNET

Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i’r awyr, er mwyn i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft – tywyllwch dychrynllyd!” Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i’r awyr, ac roedd hi’n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod. Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi’n olau lle roedd pobl Israel yn byw.