YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 16:3-4

Exodus 16:3-4 BNET

“Byddai’n well petai’r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i’w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i’r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i’n mynd i wneud i fara ddisgyn o’r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i’r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i’n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i’n ddweud ai peidio.