YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 2:11-12

Exodus 2:11-12 BNET

Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu’n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw’n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o’i bobl ei hun! Ar ôl edrych o’i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe’n taro’r Eifftiwr a’i ladd, a chladdu ei gorff yn y tywod.