YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 3:7-8

Exodus 3:7-8 BNET

Yna meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n gweiddi wrth i’w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i’n teimlo drostyn nhw. Felly dw i wedi dod lawr i’w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i’n mynd i’w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae’r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw.