YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 32:5-6

Exodus 32:5-6 BNET

Pan welodd Aaron eu hymateb nhw, dyma fe’n codi allor o flaen yr eilun, ac yna’n gwneud cyhoeddiad, “Yfory byddwn ni’n cynnal Gŵyl i’r ARGLWYDD!” Felly dyma nhw’n codi’n gynnar y bore wedyn a chyflwyno offrymau i’w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.