YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 11

11
Bydd Jerwsalem yn Syrthio
1Dyma’r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i’r giât, dyma fi’n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Iaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil. 2A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas. 3‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy’r ddinas yma, a ni ydy’r cig sy’n cael aros ynddo.’ 4Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!”
5A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi’n ddweud, ie? Wel, dw i’n gwybod beth sy’n mynd drwy eich meddyliau chi!#Diarhebion 15:11 6Chi sy’n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’ 7Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy’r crochan, a’r holl gyrff meirw sydd wedi’u taflu ar y strydoedd ydy’r cig. Chi ydy’r rhai dw i’n mynd i’w taflu allan! 8Mae gynnoch chi ofn i’r gelyn ymosod gyda’i gleddyf. Wel, bydda i’n gwneud i’r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD. 9‘Bydda i’n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o’r ddinas a’ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall. 10Byddwch chi’n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma’n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. 11Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i’n eich barnu chi ar dir Israel, 12a byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o’ch cwmpas chi!’”
13Wrth i mi gyhoeddi’r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio’n farw. A dyma fi’n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo’n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti’n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
Gair o gysur i’r bobl yn y gaethglud
14Yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi: 15“Ddyn, mae’r bobl sy’n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi’u cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw’n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae’r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’
16“Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi’u hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a’u chwalu nhw drwy’r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’
17“Dwed fel yma: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i’n mynd i’ch casglu chi o’r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i’n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’
18“Byddan nhw’n dod yn ôl ac yn cael gwared â’r holl eilunod a’r pethau ffiaidd sy’n cael eu gwneud yma. 19Bydda i’n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i’n cael gwared â’r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw. 20Byddan nhw’n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. 21Ond am y bobl hynny sy’n addoli’r eilunod ac yn mynd drwy’r defodau ffiaidd yma, bydda i’n talu’n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi’i wneud.” Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.
Ysblander Duw yn gadael Jerwsalem
22Yna dyma’r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau. 23Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i’r dwyrain o’r ddinas.#11:23 mynydd … ddinas Mynydd yr Olewydd. Crib tua dwy filltir a hanner o hyd i’r dwyrain o Jerwsalem. 24Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth.
25Felly dyma fi’n dweud wrth y bobl yn y gaethglud am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddangos i mi.

Currently Selected:

Eseciel 11: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Eseciel 11