YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 45

45
Rhannu’r Tir
Tir yr ARGLWYDD
1“‘Pan fyddwch chi’n rhannu’r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i’r ARGLWYDD – darn o dir wedi’i gysegru’n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig. 2(Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i’w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o’i gwmpas sy’n 26 metr o led.) 3Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a’r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi’i osod yn ei ganol. 4Bydd yn dir wedi’i gysegru’n arbennig. Tir i’r offeiriaid sy’n gwasanaethu yn y cysegr ac sy’n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i’w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml. 5Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy’n gwasanaethu yn y deml.
6“‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.
Tir y Pennaeth
7“‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i’r gorllewin o’r tir cysegredig, a’r llall i’r dwyrain. Bydd ei ffiniau’n gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau. 8Dyna’i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw’n parchu ffiniau’r tir sydd wedi’i roi i bob un o lwythau Israel.
Rheolau i’r arweinwyr
9“‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a’r gormes yma! Gwnewch beth sy’n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o’u cartrefi. 10Defnyddiwch glorian sy’n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir. 11Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â’r safon hwnnw.#45:11 Rhaid cael … hwnnw Hebraeg, “rhaid i’r bath fod yn un rhan o ddeg o homer, a’r effa hefyd yn un rhan o ddeg o homer. Yr homer fydd y safon”. 12A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.
13“‘Dyma’r offrwm sydd i’w gyflwyno: un rhan o chwe deg o’r ŷd a’r haidd; 14un rhan o gant o’r olew olewydd; 15ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy’n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i’w losgi’n llwyr, a’r offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, i wneud pethau’n iawn rhyngddyn nhw a Duw,’” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD. 16“Bydd pawb drwy’r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno’r offrymau yma i bennaeth y wlad. 17Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i’w llosgi, yr offrymau o rawn a’r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol#Numeri 28:11-15 a’r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno’r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i’w llosgi’n llwyr a’r offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau’n iawn rhwng pobl Israel a Duw.
Y Gwyliau
(Exodus 12:1-20; Lefiticus 23:33-43)
18“‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn#45:18 flwyddyn Hebraeg, “mis cyntaf”, sef Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan). Mis cyntaf y calendr Hebreig sy’n rhedeg o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.#Exodus 12:1-13; Deuteronomium 16:1,2 rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o’i le arno i wneud y cysegr yn lân. 19Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a’i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i’r iard fewnol. 20Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o’r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu’n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân.
21“‘Mae Gŵyl y Pasg i’w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. 22Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a’r bobl. 23Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi’n llwyr i’r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o’i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod. 24Bydd e hefyd yn rhoi deg cilogram o rawn a phedwar litr o olew olewydd gyda phob tarw a phob hwrdd. 25A bydd yn darparu’r un offrymau ar saith diwrnod Gŵyl y Pebyll sy’n dechrau ar y pymthegfed diwrnod o’r seithfed mis#45:25 seithfed mis Tishri (neu Ethanim), sef seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref. – sef yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrymau i’w llosgi, yr offrwm o rawn a’r olew olewydd.

Currently Selected:

Eseciel 45: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Eseciel 45