YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 48:15-16

Genesis 48:15-16 BNET

A dyma fe’n bendithio Joseff drwy ddweud, “O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd; Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg – bendithia’r bechgyn yma. Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw. Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”