Genesis 49:3-4
Genesis 49:3-4 BNET
Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni – yr un â’r safle uchaf a’r anrhydedd mwyaf. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr – fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a’i lygru drwy dreisio fy ngwraig – gorwedd ar glustogau dy dad!