Hosea 7
7
1dw i eisiau iacháu Israel.
Ond mae pechod Effraim yn y golwg,
a drygioni Samaria#7:1 Samaria Prifddinas Israel. mor amlwg.
Maen nhw mor dwyllodrus!
Mae lladron yn torri i mewn i’r tai,
a gangiau’n dwyn ar y strydoedd.
2Dŷn nhw ddim yn sylweddoli
fy mod i’n gweld y drwg i gyd.
Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw –
dw i’n ei weld o flaen fy llygaid!
3Mae’r brenin yn mwynhau gweld drwg
a’r tywysogion yn twyllo.
4Maen nhw i gyd yn godinebu!
Maen nhw fel popty crasboeth –
does dim rhaid i’r pobydd brocio’r tân
tra mae’n tylino’r toes,
na pan mae’n cael ei bobi!
5Mae’r brenin yn cynnal parti,
ac mae’r tywysogion yn meddwi;
Mae e’n cynllwynio gyda phaganiaid
6ac yn troi ata i gan fwriadu brad.
Bwriadau sydd fel popty poeth,
yn mudlosgi drwy’r nos
ac yn cynnau’n fflamau tân yn y bore.
7Maen nhw i gyd fel popty crasboeth,
yn lladd eu llywodraethwyr.
Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio,
a does dim un yn galw arna i!
Israel a’r Cenhedloedd
8Mae Effraim#7:8 Effraim Enw arall ar Israel, teyrnas y gogledd. wedi cymysgu gyda’r cenhedloedd.
Mae fel bara tenau wedi’i losgi ar un ochr!
9Mae estroniaid yn sugno’i nerth,
a dydy e ddim wedi sylwi!
Mae fel hen ddyn a’i wallt yn britho
heb iddo sylwi!
10Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.
Wnân nhw ddim troi’n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw!
Er gwaetha’r cwbl maen nhw’n gwrthod troi ato.
11Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i’w thwyllo –
mae’n galw ar yr Aifft am help,
ac wedyn yn troi at Asyria.
12Bydda i’n taflu fy rhwyd i’w rhwystro rhag hedfan;
bydda i’n eu dal nhw fel dal adar,
ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw’n heidio at ei gilydd.
13Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i!
Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i!
Sut alla i eu gollwng nhw’n rhydd
pan maen nhw’n dweud celwydd amdana i?
14Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif.
Maen nhw’n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi,
a thorri eu hunain â chyllyll#7:14 thorri eu hunain â chyllyll Un arfer wrth addoli Baal (gw. 1 Brenhinoedd 18:28. wrth ofyn am ŷd a grawnwin.
Maen nhw wedi troi cefn arna i,
15er mai fi wnaeth eu dysgu nhw.
Fi wnaeth eu gwneud nhw’n gryf,
ond maen nhw’n cynllwynio i wneud drwg i mi.
16Maen nhw’n troi at Baal!
Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim.#Salm 78:57
Byddan nhw’n cael eu lladd gan y gelyn
am siarad mor hy yn fy erbyn.
Byddan nhw’n destun sbort i bobl yr Aifft.
Currently Selected:
Hosea 7: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

:
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023