Eseia 14
14
Pobl yr ARGLWYDD yn dod adre
1Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob,
ac yn dewis Israel unwaith eto.
Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain,
a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw
ac yn uniaethu gyda phobl Jacob.
2Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i’w mamwlad.
Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw,
i’w drin gan eu gweision a’u morynion.
Byddan nhw’n caethiwo’r rhai wnaeth eu caethiwo nhw,
ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
Marwolaeth brenin Babilon!
3Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a’r holl waith caled pan oeddet ti’n gaethwas, 4byddi’n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon:
“Ble mae’r gormeswr wedi diflannu?
Mae ei falchder wedi dod i ben!
5Mae’r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg,
a gwialen y gormeswyr.
6Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd
yn ddi-stop.
Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd
a’u herlid yn ddi-baid.
7Bellach mae’r ddaear yn dawel a digyffro,
ac mae’r bobl yn canu’n llawen.
8Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus,
a’r coed cedrwydd yn Libanus yn canu:
‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr,
dydy’r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’
9Mae byd y meirw isod mewn cyffro,
yn barod i dy groesawu di –
bydd y meirw’n deffro, sef arweinwyr y byd,
a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear
yn codi oddi ar eu gorseddau.
10Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di,
‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau’n wan fel ni!
11Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau
wedi eu tynnu i lawr i Annwn!#14:11 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”.
Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat
a phryfed genwair yn flanced drosot ti!
12Y fath gwymp!
Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr,
wedi syrthio o’r nefoedd!
Ti wedi dy dorri i lawr i’r ddaear –
ti oedd yn sathru’r holl wledydd!
13Roeddet ti’n meddwl i ti dy hun,
“Dw i’n mynd i ddringo i’r nefoedd,
a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw.
Dw i’n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa
yn y gogledd pell.#14:13 gogledd pell Hebraeg, Saffon, sef y mynydd mytholegol mae Salm 48:2 yn cyfeirio ato.
14Dw i’n mynd i ddringo ar gefn y cymylau,
a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
15O’r fath gwymp –
rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,
i’r lle dyfnaf yn y Pwll!
16Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni:
“Ai hwn ydy’r dyn wnaeth i’r ddaear grynu,
a dychryn teyrnasoedd?
17Ai fe ydy’r un drodd y byd yn anialwch,
a dinistrio’i ddinasoedd –
heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’
18Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd – pob un ohonyn nhw –
yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.
19Ond ti? – Cest ti dy adael heb dy gladdu,
yn ffiaidd, fel ffetws wedi’i erthylu.
Fel corff marw yn y dillad a wisgai
pan gafodd ei drywanu â’r cleddyf.
Fel y rhai sy’n syrthio i waelod y pwll,
neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
20Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,
am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun
a lladd dy bobl dy hun.
Boed i neb fyth eto gofio’r
fath hil o bobl ddrwg!
21Paratowch floc i ddienyddio’i feibion
o achos drygioni eu tad.
Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu’r tir
a llenwi’r byd gyda’i dinasoedd!”
Bydd Duw yn cosbi Babilon
22Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Bydda i’n codi yn eu herbyn nhw.
Bydda i’n dileu pob enw o Babilon,
a lladd phawb sy’n dal ar ôl yno,
eu plant a’u disgynyddion i gyd.
23Bydda i’n llenwi’r wlad â draenogod
a’i throi’n gors o byllau dŵr mwdlyd.
Bydda i’n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr.”
–yr ARGLWYDD hollbwerus sy’n dweud hyn.
Duw yn cosbi Asyria
24Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi tyngu llw:
“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;
bydd fy nghynlluniau’n dod yn wir.#Eseia 10:5-34; Nahum 1:1–3:19; Seffaneia 2:13-15
25Bydda i’n dryllio grym Asyria yn fy nhir,
ac yn ei sathru ar fy mryniau.
Bydd ei hiau yn cael ei thynnu oddi ar fy mhobl,
a’r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
26Dyna’r cynllun sydd gen i
ar gyfer y ddaear gyfan.
Dyna pam mae fy llaw yn barod
i ddelio gyda’r cenhedloedd i gyd.”
27Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus gynllun –
pwy sy’n mynd i’w rwystro?
Mae ei law yn barod i weithredu –
pwy sy’n mynd i’w ddal yn ôl?
Cosbi’r Philistiaid
28Neges gafodd ei rhoi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:#14:28 Brenin Ahas farw sef y flwyddyn 715 cc. #2 Brenhinoedd 16:20; 2 Cronicl 28:27
29Peidiwch dathlu, chi’r Philistiaid i gyd,
am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi’i thorri.
O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi,
gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.#Jeremeia 47:1-7; Eseciel 25:15-17; Joel 3:4-8; Amos 1:6-8; Seffaneia 2:4-7; Sechareia 9:5-7
30Bydd y tlotaf o’r tlawd yn cael pori,
a’r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel.
Ond bydda i’n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn,
a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.
31Udwch wrth y giatiau a sgrechian yn y ddinas;
mae Philistia i gyd mewn dychryn!
Achos mae cwmwl yn dod o’r gogledd,
a does neb yn ei rengoedd yn llusgo’i draed.
32Beth ydy’r ateb i negeswyr y genedl?
Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff,
a bod lloches yno i’w bobl anghenus.
Currently Selected:
Eseia 14: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

:
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023