Eseia 23
23
Cosbi Tyrus
1Neges am Tyrus:#Eseciel 26:1–28:19; Joel 3:4-8; Amos 1:9-10; Sechareia 9:1-4; Mathew 11:21-22; Luc 10:13-14
Udwch, longau masnach Tarshish!#23:1,14 Tarshish Porthladd yn Sbaen. Mae’n debyg fod “llongau Tarshish” yn cyfeirio at longau masnach mawr oedd yn croesi’r moroedd.
Does dim porthladd i fynd adre iddo
– achos mae wedi’i ddryllio!
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.
2Galarwch, chi sy’n byw ar yr arfordir,
chi fasnachwyr Sidon.
Maen nhw wedi croesi’r môr i’w chyflenwi,
3wedi croesi’r dyfroedd mawr
gyda had o Sihor a chynhaeaf afon Nîl;
dyna oedd ei henillion –
hi oedd marchnad y gwledydd.
4Cywilydd arnat ti, Sidon,
achos mae’r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,
“Fi ydy’r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant.
Dw i heb fagu bechgyn na merched ifanc!”
5Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth
byddan nhw’n gwingo mewn poen
wrth glywed am Tyrus.
6Croeswch drosodd i Tarshish –
udwch, chi sy’n byw ar yr arfordir!
7Ai dyma’r ddinas gawsoch chi’r fath firi ynddi –
y ddinas sydd â hanes mor hen iddi?
Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
8Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,
y ddinas oedd yn gwisgo coron,
a’i masnachwyr yn dywysogion
ac yn bobl mor bwysig?
9Yr ARGLWYDD hollbwerus drefnodd y peth –
i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,
a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
10Hwyliwch adre, bobl Tarshish,
i drin eich tir fel y rhai sy’n ffermio wrth afon Nîl;
does dim harbwr i chi yma bellach.
11Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr
gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn!
Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn
i ddinistrio trefi caerog Canaan.
12Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch,
ferch Sidon, sydd wedi’i gorthrymu.”
Dos! Cod, a chroesa drosodd i Cyprus,
ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
13Edrychwch ar wlad Babilonia –
y bobl sydd wedi peidio â bod!
Rhoddodd Asyria nhw i’r anifeiliaid gwyllt.
Codi tyrau i warchae arni,
ysbeilio’i phlastai a’i throi yn adfeilion.
14Udwch, longau masnach Tarshish,
achos mae eich caer ddiogel wedi’i dinistrio!
15Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:
16Cymer delyn, crwydra’r ddinas,
butain a anghofiwyd;
Cân dy alaw unwaith eto,
i wneud i bobl gofio.
17Achos, ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi. 18Ond bydd ei helw a’i henillion yn cael eu cysegru i’r ARGLWYDD; fyddan nhw ddim yn cael eu cadw a’u storio. Bydd ei helw yn mynd i’r rhai sy’n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a’r dillad gorau.
Currently Selected:
Eseia 23: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

:
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023