YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 22:15-16

Jeremeia 22:15-16 BNET

Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd yn dy wneud di’n well brenin? Meddylia am dy dad. Roedd e’n hapus os oedd ganddo fwyd a diod. Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg, ac roedd pethau’n mynd yn dda gydag e. Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, ac roedd pethau’n mynd yn dda. Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.