Jeremeia 44:16-17
Jeremeia 44:16-17 BNET
“Ti’n dweud dy fod ti’n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti! Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i’r dduwies ‘Brenhines y Nefoedd’. Roedd ein hynafiaid a’n brenhinoedd a’n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau’n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.