YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 52

52
Gair i gloi – geiriau Jeremeia’n dod yn wir
(52:1-34)
Hanes Jerwsalem yn cael ei choncro
(2 Brenhinoedd 24:18–25:7)
1Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi’n frenin.#52:1 benodi’n frenin Gan Nebwchadnesar (gw. 37:1). Bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd.#52:1 un deg un o flynyddoedd o 598 i 586 cc. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna#52:1 Jeremeia o Libna Jeremeia arall, nid y proffwyd (gw. 1:1) Roedd Libna yn dref ar y ffin rhwng Jwda a Philistia.). 2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim. 3Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o’i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw.
Ond yna, dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon. 4A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â’i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o’r degfed mis#52:4 y degfed mis Tebeth, sef degfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Rhagfyr i ganol Ionawr. yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw’n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. 5Buon nhw’n gwarchae#52:5 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). 6Erbyn y nawfed diwrnod o’r pedwerydd mis#52:6 pedwerydd mis Tammws, sef pedwerydd mis y calendr Hebreig, o tua canol Mehefin i ganol Gorffennaf. Yr union ddyddiad fyddai Gorffennaf 18, 586 cc. y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i’w fwyta. 7Dyma’r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o’r ddinas ganol nos drwy’r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw’n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.#52:7 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu’r ddinas.) 8Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma’i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 9Dyma nhw’n mynd â’r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath. 10Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd. 11Wedyn dyma fe’n tynnu llygaid Sedeceia allan a’i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e’n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw.
Y deml yn cael ei dinistrio
(2 Brenhinoedd 25:8-17)
12Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o’r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 13Dyma fe’n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a’r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 14Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda’r capten yn bwrw’r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. 15A dyma Nebwsaradan yn mynd â’r bobl dlawd a phawb oedd wedi’u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 16Ond gadawodd rai o’r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.
17Wedyn dyma’r Babiloniaid yn malu’r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a’r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’. A dyma nhw’n cario’r metel yn ôl i Babilon. 18Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 19Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi’i wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni’r offrwm o ddiod. 20Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi’u gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy’n cael ei galw ‘Y Môr’, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a’r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i’w bwyso. 21Roedd y pileri yn naw metr o uchder, ac roedd eu cylchedd yn bum metr a hanner; roedden nhw’n wag y tu mewn, ac wedi’u gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch. 22Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi’i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. 23Roedd 96 o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.
Pobl Jwda’n cael eu cymryd yn gaethion i Babilon
(2 Brenhinoedd 25:18-21)
24Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 25Wedyn o’r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o’r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o’i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 26Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla, 27a dyma’r brenin yn eu curo nhw a’u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o’u tir.
28Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin,#52:28 seithfed flwyddyn fel brenin 598–597 cc. 3,023 o bobl Jwda. 29Ym mlwyddyn un deg wyth o’i deyrnasiad,#52:29 Ym mlwyddyn un deg wyth o’i deyrnasiad 587–586 cc. 832 o bobl. 30Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o’i deyrnasiad,#52:30 ym mlwyddyn dau ddeg tri o’i deyrnasiad 583–582 cc. cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.
Y Brenin Jehoiachin yn y gaethglud
(2 Brenhinoedd 25:27-30)
31Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach#52:31 Efil-merodach Mab Nebwchadnesar oedd yn teyrnasu ar Babilon o 562 i 560 cc. yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o’r deuddegfed mis#52:31 deuddegfed mis Adar, sef deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth. y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o’r carchar. 32Buodd yn garedig ato, a’i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o’r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 33Felly dyma Jehoiachin yn newid o’i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta’n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 34ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

Currently Selected:

Jeremeia 52: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Jeremeia 52