Lefiticus 24
24
Gofalu am y lampau
(Exodus 27:20,21)
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel fod rhaid iddyn nhw ddod ag olew olewydd pur i mi fel bod y lampau wedi’u goleuo’n gyson. 3Mae Aaron i’w gosod tu allan i’r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy’r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser. 4Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD.
Y bara wedi’i gysegru i Dduw
5“Rhaid defnyddio’r blawd gwenith gorau a phobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth. 6Mae’r deuddeg torth i’w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un. 7Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i’r ARGLWYDD. 8Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a’u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae’n ymrwymiad mae’n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser. 9Mae’r offeiriaid, Aaron a’i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta’r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi’u cysegru i’r ARGLWYDD.”
Y gosb am felltithio enw Duw
10-11Un diwrnod, roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o’i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe’n dechrau ymladd gydag un o ddynion Israel. Dyma fe’n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw’n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan). 12Dyma nhw’n ei gadw yn y ddalfa nes byddai’r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo.
13A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
14“Mae’r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o’r gwersyll, a gwna i’r rhai glywodd e’n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato. 15Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy’n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod, 16ac mae unrhyw un sy’n amharchu enw’r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a’i ladd. Sdim ots os ydy’r person yn un o bobl Israel neu’n fewnfudwr sy’n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy’n amharchu enw Duw i farw.
17“‘Marwolaeth ydy’r gosb am lofruddiaeth hefyd.#Exodus 21:12 18Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i’r perchennog. 19Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i’r gosb gyfateb i’r drosedd – 20anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant – beth bynnag mae e wedi’i wneud i’r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe. 21Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw. 22Yr un ydy’r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy’n byw yn eu plith. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
23Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma nhw’n mynd â’r un oedd wedi melltithio Duw allan o’r gwersyll, a’i ladd drwy daflu cerrig ato. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Currently Selected:
Lefiticus 24: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

: