YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 28:12-15

Mathew 28:12-15 BNET

Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda’r arweinwyr eraill i drafod beth i’w wneud. Dyma nhw’n penderfynu talu swm mawr o arian i’r milwyr i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i’w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni’n cysgu.’ Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi’ch cosbi.” Felly dyma’r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma’r stori sydd ar led ymhlith pobl Jwda hyd heddiw!