YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 6:16-18

Mathew 6:16-18 BNET

“Pan fyddwch chi’n ymprydio, peidiwch gwneud i’ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae’r bobl sy’n gwneud hynny yn cuddio’u hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna’r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di’n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb. Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti’n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy’n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.