Numeri 7
7
Offrymau’r arweinwyr
1Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codi’r Tabernacl, dyma fe’n eneinio a chysegru’r cwbl – y Tabernacl ei hun a’r holl ddodrefn ynddo, a’r allor a’i holl offer. 2Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm. (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylio’r cyfrifiad.) 3Dyma nhw’n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg o ychen – sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw’n eu cyflwyno nhw i’r ARGLWYDD o flaen y Tabernacl.
4A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 5“Derbyn yr ychen a’r wagenni yma ganddyn nhw, i’w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i’w wneud.”
6Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a’r ychen, a’u rhoi nhw i’r Lefiaid. 7Dwy wagen a phedwar o ychen i’r Gershoniaid, i wneud eu gwaith. 8Pedair wagen ac wyth o ychen i’r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio. 9Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.
10Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a’i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor. 11Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru’r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”
12-83Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod:
Diwrnod | Llwyth | Arweinydd |
---|---|---|
1af | Jwda | Nachshon fab Aminadab |
2il | Issachar | Nethanel fab Tswár |
3ydd | Sabulon | Eliab fab Chelon |
4ydd | Reuben | Eliswr fab Shedeŵr |
5ed | Simeon | Shelwmiel fab Swrishadai |
6ed | Gad | Eliasaff fab Dewel |
7fed | Effraim | Elishama fab Amihwd |
8fed | Manasse | Gamaliel fab Pedatswr |
9fed | Benjamin | Abidan fab Gideoni |
10fed | Dan | Achieser fab Amishadai |
11eg | Asher | Pagiel fab Ochran |
12fed | Nafftali | Achira fab Enan |
Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a phowlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram; roedd y ddau yn llawn o’r blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd i’w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram; roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i’w losgi’n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ych, pum hwrdd, pum bwch gafr, a phum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD.
84-88Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd:
– un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un
– un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un
(felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr)
– un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un
(felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr)
– un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i’w llosgi’n llwyr – pob un gyda’i offrwm o rawn
– un deg dau bwch gafr yn offrymau puro
– dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD.
Dyna’r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a’i heneinio.
89Pan aeth Moses i mewn i babell presenoldeb Duw i siarad â’r ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad ag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwchben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau gerwb. Roedd yn siarad gyda Moses.
Currently Selected:
Numeri 7: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

: