Diarhebion 28
28
1Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau,
ond mae’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn hyderus fel llew ifanc.
2Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain,
ond mae’n cymryd arweinydd doeth a deallus i’w gwneud hi’n sefydlog.
3Mae person tlawd sy’n gormesu pobl eraill sydd mewn angen
fel storm o law trwm sy’n dinistrio cnydau.
4Mae’r rhai sy’n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg,
ond mae’r rhai sy’n cadw’r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw.
5Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder,
ond mae’r rhai sy’n ceisio’r ARGLWYDD yn ei ddeall i’r dim.
6Mae’n well bod yn dlawd ac yn onest
nag yn gyfoethog ac yn ddauwynebog.
7Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy’n cael ei ddysgu iddo
ond mae’r un sy’n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad.
8Mae yna un sy’n gwneud arian drwy godi llogau uchel,
ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy’n garedig at y tlawd.
9Mae’n gas gan Dduw wrando ar weddi
rhywun sy’n gwrthod gwrando ar y Gyfraith.
10Bydd rhywun sy’n camarwain pobl dda, a’u cael nhw i wneud drwg
yn syrthio i mewn i’w drap ei hun,
ond bydd pethau’n mynd yn dda i’r un sy’n onest.
11Mae person cyfoethog yn meddwl ei fod e’n glyfar,
ond mae’r person tlawd sy’n gall yn gweld drwyddo.
12Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr,
ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio.
13Fydd y sawl sy’n cuddio’i feiau ddim yn llwyddo;
yr un sy’n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy’n cael trugaredd.
14Mae’r un sy’n dangos gofal wedi’i fendithio’n fawr,
ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion.#gw. Diarhebion 14:16
15Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawd
fel llew yn rhuo neu arth yn prowla.
16Arweinydd heb sens sy’n gormesu o hyd;
yr un sy’n gwrthod elwa ar draul eraill sy’n cael byw’n hir.
17Bydd yr un sy’n euog o lofruddio
yn ffoi hyd ei fedd – ddylai neb ei helpu.
18Bydd yr un sy’n byw’n onest yn saff,
ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio.
19Bydd y sawl sy’n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond yr un sy’n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi.
20Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio’n fawr,
ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.
21Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da,
ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!
22Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn,
heb sylweddoli mai colled sy’n dod iddo.
23Mae’r un sy’n barod i roi gair o gerydd
yn cael mwy o barch yn y diwedd na’r un sy’n seboni.
24Mae’r un sy’n dwyn oddi ar ei dad a’i fam,
ac yna’n dweud, “Wnes i ddim byd o’i le,”
yn ffrind i lofrudd.
25Mae person hunanol yn creu helynt,
ond mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn llwyddo.
26Mae trystio’r hunan yn beth twp i’w wneud,
ond mae’r sawl sy’n ymddwyn yn gall yn saff.
27Fydd dim angen ar y sawl sy’n rhoi i’r tlodion,
ond mae’r un sy’n cau ei lygaid i’r angen yn cael ei felltithio go iawn.
28Pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio,
ond pan maen nhw’n syrthio, bydd y rhai cyfiawn yn llwyddo.
Currently Selected:
Diarhebion 28: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023

: