Salm 1:1-2
Salm 1:1-2 BNET
Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi’i fendithio’n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda’r rhai sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill; yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.