YouVersion Logo
Search Icon

Salm 48

48
Seion, dinas Duw
Cân. Salm gan feibion Cora.
1Mae’r ARGLWYDD mor fawr
ac mae’n haeddu ei foli
yn ninas ein Duw
ar ei fynydd cysegredig –
2y copa hardd sy’n gwneud yr holl fyd yn hapus.
Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon,#48:2 Saffon Yr enw ar fynydd mytholegol lle roedd y duwiau’n cyfarfod – gw. Eseia 14:13.
ydy dinas y Brenin mawr.
3Mae Duw yn byw yn ei chaerau,
ac mae’n adnabyddus fel caer ddiogel.
4Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,
ac yn dod i ymosod gyda’i gilydd.
5Ond ar ôl ei gweld roedden nhw’n fud,
wedi dychryn am eu bywydau,
ac yn dianc mewn panig!
6Roedden nhw’n crynu drwyddynt,
ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
7neu longau Tarshish yn cael eu dryllio
gan wynt y dwyrain.
8Dŷn ni bellach yn dystion
i’r math o beth y clywson ni amdano;
yn ninas yr ARGLWYDD hollbwerus,
sef dinas ein Duw –
mae e wedi’i gwneud hi’n ddiogel am byth!
Saib
9O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml
am dy ofal ffyddlon.
10O Dduw, rwyt ti’n enwog drwy’r byd i gyd,
ac yn haeddu dy foli!
Rwyt ti’n sicrhau cyfiawnder.
11Mae Mynydd Seion yn gorfoleddu!
Mae pentrefi Jwda yn llawen,
o achos beth wnest ti.
12Cerdda o gwmpas Seion,
dos reit rownd!
Cyfra’r tyrau,
13edrych yn fanwl ar ei waliau,
a dos drwy ei chaerau,
er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser.
Bydd e’n ein harwain ni tra byddwn ni byw.

Currently Selected:

Salm 48: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in