YouVersion Logo
Search Icon

Salm 53

53
Drygioni’r galon ddynol
(Salm 14)
I’r arweinydd cerdd: Mascîl ar yr alaw “Machalath”. Salm Dafydd.
1Dim ond ffŵl sy’n meddwl wrtho’i hun,
“Dydy Duw ddim yn bodoli.”
Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd.
Does neb yn gwneud daioni!
2Mae Duw yn edrych i lawr o’r nefoedd ar y ddynoliaeth
i weld a oes unrhyw un call,
unrhyw un sy’n ceisio Duw.
3Ond mae pawb wedi troi cefn arno,
ac yn gwbl lygredig.
Does neb yn gwneud daioni –
dim un!
4Ydyn nhw wir mor dwp? – Yr holl rhai drwg
sy’n llarpio fy mhobl fel taen nhw’n llowcio bwyd,
a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?
5Byddan nhw’n dychryn am eu bywydau
– fuodd erioed y fath beth o’r blaen –
Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy’n ymosod arnat ti.
Byddi di’n codi cywilydd arnyn nhw,
am fod Duw wedi’u gwrthod nhw.
6O, dw i eisiau i’r un sy’n achub Israel ddod o Seion!
Pan fydd Duw yn troi’r sefyllfa rownd
bydd Jacob yn gorfoleddu,
a bydd Israel mor hapus!

Currently Selected:

Salm 53: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Salm 53