YouVersion Logo
Search Icon

Salm 79

79
Gweddi i achub y genedl
Salm gan Asaff.
1O Dduw, mae’r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir.
Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidd
a throi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.
2Maen nhw wedi gadael cyrff dy weision
yn fwyd i’r adar,
a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwyllt.
3Mae gwaed dy bobl yn llifo
fel dŵr o gwmpas Jerwsalem,
a does neb i gladdu’r cyrff.
4Dŷn ni’n gyff gwawd i’n cymdogion;
ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o’n cwmpas.
5Am faint mwy, O ARGLWYDD?
Fyddi di’n ddig am byth?
Fydd dy eiddigedd, sy’n llosgi fel tân, byth yn diffodd?
6Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod
a’r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!
7Nhw ydy’r rhai sydd wedi llarpio Jacob
a dinistrio’i gartref.#Jeremeia 10:25
8Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn.
Brysia! Dangos dosturi aton ni,
achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!
9Helpa ni, O Dduw ein hachubwr,
er mwyn dy enw da.
Achub ni a maddau ein pechodau,
er mwyn dy enw da.
10Pam ddylai’r paganiaid gael dweud,
“Ble mae eu Duw nhw?”
Gad i ni dy weld di’n rhoi gwers i’r cenhedloedd,
a thalu’n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.
11Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan!
Defnyddia dy nerth i arbed
y rhai sydd wedi’u condemnio i farwolaeth!
12Tala nôl yn llawn i’n cymdogion!
Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.
13Yna byddwn ni, dy bobl
a phraidd dy borfa,
yn ddiolchgar i ti am byth
ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!

Currently Selected:

Salm 79: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in