YouVersion Logo
Search Icon

Datguddiad 6

6
Y saith sêl
1Rôn i’n gwylio’r Oen yn agor y gyntaf o’r saith sêl. A chlywais un o’r pedwar creadur byw yn galw’n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!” 2Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o mlaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro’r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr.
3Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw’n uchel, “Tyrd allan!” 4Yna daeth ceffyl arall allan – un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o’r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo.
5Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi’n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o mlaen i, a’r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. 6Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi’n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i’r coed olewydd a’r gwinwydd!”
7Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw’n uchel, “Tyrd allan!” 8Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o mlaen i! Marwolaeth oedd enw’r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glòs y tu ôl iddo. Dyma nhw’n cael awdurdod dros chwarter y ddaear – awdurdod i ladd gyda’r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwyllt.#cyfeiriad at Eseciel 14:21
9Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. 10Roedden nhw’n gweiddi’n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu’r bobl sy’n perthyn i’r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?” 11Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a’r chwiorydd fyddai’n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.
12Wrth i mi wylio’r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a’r lleuad yn goch i gyd fel gwaed. 13Dyma’r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu.#cyfeiriad at Eseia 34:4 14Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o’u lle.
15Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a’u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb!#adlais o Eseia 34:12 a 2:10,18-21 16Roedden nhw’n gweiddi ar y mynyddoedd a’r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a’n cuddio ni #Hosea 10:8 o olwg yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen! 17Mae’r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?”

Currently Selected:

Datguddiad 6: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in