YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 4

4
PEN. IV.—
1Gwrandewch air yr Arglwydd, meibion Israel: Canys y mae cwyn#dadl. gan yr Arglwydd â thrigolion y wlad;
Am nad oes gwirionedd, ac nad oes trugaredd, ac nad oes gwybodaeth o Dduw yn y wlad.
2Tyngu#melldith. Syr. melldith a chelwydd. LXX. Vulg. a dywedyd celwydd;#melldith. Syr. melldith a chelwydd. LXX. Vulg.
A lladd, a lladrata, a godinebu#llofruddiaeth, a lladrad, a godineb. LXX. Vulg. a dorant allan:#amlhasant. Syr. ledant, dywalltwyd ar y wlad. LXX. orchuddiasant. Vulg.
A gwaed a gyffwrdd#a gymysgasant. Syr. gymysga. LXX. a gwaed.
3Am hyny y galara y wlad;
Ac y llesga#a hi a fychenir gyda phawb. LXX. pawb sydd yn trigo ynddi;
Ynghyd âg anifeiliaid y maes ac ehediaid yr awyr:
A physgod y môr hefyd a ddarfyddant.#a gesglir. Vulg.
4Eto, nid oes ddyn a ddadleua, ac nid oes ddyn a gerydda:#yn barnu nac yn ceryddu. Syr. Achwyna; na ddadleued dyn ac na cherydded dyn; na cherydder. Vulg.
A’th bobl sydd fel rhai a ymrysonent âg offeiriaid.#a’m pobl sydd fel offeiriad; gwrthddywededig. LXX.
5A thi a syrthi y dydd:
A phroffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos:#i nos y tebygais dy fam. LXX. yn y nos y perais i’th fam dewi. Vulg.
A mi a ddyfethaf dy fam.
6Fy mhobl a ddyfethir#tawodd fy mhobl. Syr., Vulg. o eisiau gwybodaeth:
Am i ti wrthod#ddiystyra, ddiystyraf, bwriaf di allan o offeiriadaeth. Syr. gwybodaeth,
Minau hefyd a’th wrthodaf #ddiystyra, ddiystyraf, bwriaf di allan o offeiriadaeth. Syr. dithau rhag bod yn offeiriad i mi;
A thi a annghofiaist gyfraith dy Dduw;
Minau hefyd a annghofiaf dy blant dithau.
7Fel yr amlhauwyd hwynt, felly y pechasant i’m herbyn:
Eu gogoniant hwythau a newidiaf am#yn warth; a newidiasant am. Syr. warth.
8Pech aberth fy mhobl a fwytant:
Ac yn eu hanwiredd hwynt yr ymhyfryda#y dyrchafant eu henaid, calonau,chwenychant. eu#ei. Hebr. henaid.
9Ac megys y bydd y bobl, felly yr offeiriad:
Ac ymwelaf#dialaf ei ffyrdd ef arno. LXX. âg ef am ei ffyrdd;
Ac ad-dalaf iddo ei weithredoedd.#ei feddylion. Vulg.
10hwy a fwytant ac nis diwellir hwynt;
Puteiniant ac nid amlhant:#ni pheidiasant. Vulg. nid ymuniawnant. LXX.
Am iddynt adael gwasanaethu#sylwi; dysgwyl wrth; adael yr Ar. trwy beidio gwylio Vulg. yr Arglwydd.
11Godineb, a gwin, a gwin newydd a gymer ymaith eu calon.#calon fy mhobl a dderbyniodd odineb a. LXX.
12Fy mhobl a ymofyn â’u pren;#ymofynant trwy arwyddion. LXX.
A’u ffon a fynega iddynt:#fynegodd iddo. Vulg.
Canys ysbryd puteindra a barodd gyfeiliorni;
A phuteiniasant oddiwrth#odditan. Hebr. eu Duw.
13Ar benau y mynyddoedd yr aberthant,
Ac ar y bryniau yr arogldarthant:
Dan dderwen, a phoplysen, a phystac,#terebinth, pistacia terebinthus,
Am fod yn dda ei chysgod:
Am hyny y puteinia eich merched,
A’ch gwauddau a odinebant.
14Nid#onid. ymwelaf a’ch merched pan buteiniant,
Nac a’ch gwauddau pan odinebant;
Canys hwynt eu hunain a ymddidolant#gydymysgwyd. LXX. gyda y puteiniaid;
A chyda’r merched aflan#rhai perffeithiedig. LXX. yr aberthant,
A phobl ag na ddeallant a syrthiant.#a’r bobl anneallus a gydblethwyd â phuteindra. LXX. a fflangellir. Vulg.
15Os yn puteinio yr wyt ti, Israel,
Na pheched Judah:#a thi, Israel, na fydd anwybodus a Juda: nac ewch i fyny, &c., LXX.
Ac nac ewch i fyny i Gilgal,
Ac nac ewch i fyny i Bethafen;#i dy On (afen). LXX.
Ac na thyngwch byw yr Arglwydd.#i Arglwydd byw. LXX.
16Canys fel anner anhywaith;#gynhyrfus. LXX. drythyll. Vulg.
Yr anhyweithodd Israel:
Yn awr yr Arglwydd a’u portha hwynt;
Fel oen mewn ëangle.
17Ephraim a gysylltwyd#yn gydymaith eilunod. âg eilunod:
Gad iddo.#Ephraim a osododd dramgwyddau iddo ei hun. LXX.
18Trodd eu gwin hwynt:#surodd eu. Eu gwledd a aeth ymaith, hoffodd Ganaaneaid. LXX.
Gan buteiuio y puteiniasant;
Ei llywodraethwyr a hoffasant moeswch gywilydd.#hoffasant amharch, oddiwrth ei therfysg hi. LXX. hoffasant ddwyn cywilydd. Vulg. hoffasant gywilydd a dychryn. Syr.
19Gwynt a’i rhwymodd#gwasgodd, cyfyngodd; trofa gwynt wyt ti yn ei hadenydd. LXX. trystia gwynt yn eu hadenydd, cyrau, Syr. hi yn ei hadenydd:
A bydd arnynt gywilydd o herwydd eu haberthau.

Currently Selected:

Hosea 4: PBJD

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in