YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 10:1-42

Mathew 10:1-42 DAFIS

Galwodd e'r disgiblion ato fe a rhoi comands iddyn nhwy dros isbrydion bowlyd i hala nhwy mas, a i wella pob math o glefid a salwch. Enw'r douddeg apostol we: in ginta, Simon we'n câl i alw in Pedr, a Andreas i frawd e; Iago crwt Sebedeus, a Ioan i frawd inte; Philip a Bartholmeus; Tomos, a Mathew i casglwr trethi; Iago crwt Alffeus, a Thadeus; Simon o Gananea, a Jwdas Iscariot, a nâth i fradichu e. Câs i Douddeg 'ma u hala mas 'da Iesu gida'r ordors 'ma: “Peidwch mynd ar hewl sy'n mynd at rei sy ddim in Iddewon, a peidwch mynd miwn i unrhiw dre Samaredd; in hitrach cerwch chi at ddefed tŷ Isrel sy ar goll. Wrth ichi fynd, gwedwch wrth bob un, 'Ma Teyrnas Nefodd wedi dwâd in agos.’ Gwelwch i rhei sy'n sâl, codwch i rhei, clauwch i rhei a cwren tost, halwch githreilied mas. Nethoch chi ddim talu ddim byd am beth gethoch chi; peidwch chi â codi dim byd am beth ŷch chi'n rhoi. “Peidwch trefnu câl pwtshys llond our, arian neu gopor, na câl sach rhiwun sy'n begian, na dou grys, na sandals, na bastwn. Ma'r rhei sy'n gweitho in heiddu'u bwyd. Pan ewch chi miwn i dre neu bentre holwch wrth fynd miwn pwy sy'n folon rhoi croeso ichi a arhoswch gida nhwy nes bo chi'n mynd o fan 'ny. Wrth ichi fynd miwn i'r tŷ cifarchwch wrth weud “Heddwch”, a os yw pobol i tŷ in rhoi croeso ichi gadwch i’ch heddwch chi ddwâd arnyn nhwy; ond os senyn nhwy, gadwch i’ch heddwch ddwâd nôl atoch chi. Os yw rhiwun ddim in rhoi croeso ichi neu ddim in grondo ar ich geire chi, pan ewch chi mas o'r tŷ neu'r dre 'na shiglwch dwst i lle bant o’ch trade. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd i'n well ar wlad Sodom a Gomorra ar ddwarnod barn na'r dre 'na. “Dw i'n ich hala chi mas fel defed i ganol bleidded. So, fel nadrodd, watshwch mas trw'r amser a'n ddi-fai fel colomenod. Watshwch mas am ddinion, achos biddan nhwy in ich rhoi chi lan i gâl ich barnu miwn llysodd barn a'n ich whipo chi in u sinagoge nhwy, a biddwch chi'n câl ich arwen o flân lliwodraethwyr a brenhinodd ar in gownt, i ddwyn tistioleth iddyn nhwy a i'r cenhedlodd. Pan newn nhwy ich rhoi chi drosto, peidwch becso am shwt ŷch chi'n mynd i sharad neu beth ŷch chi'n mynd i weud, achos pan ddeith ir amser ceith geire u rhoi ichi. Ddim chi sy'n sharad, ond Isbryd ich Tad sy'n sharad indoch chi. Bydd brawd in rhoi brawd i gâl i ladd, a tad plentyn, a bydd plant in troi in erbyn u rhieni a'n u lladd nhwy. Bydd bobun in ffeilu ich hari chi achos ich bo chi in ffiddlon i fi; ond ma unrhiw un sy'n stico i mas i'r diwedd in mynd i gâl i safio. Pan fiddan nhwy in ich erlid chi miwn un tre, jengwch i'r un nesaf, achos dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, biddwch chi ddim wedi bod in trefi Isrel i gyd cyn bo Crwt i Dyn in dwâd. “Seno disgibil in fwy na'r un sy'n i ddisgu fe, a seno ceithwas in uwch na'i fishtir. Ma i'n ddigon i ddisgibil fod 'run peth â'r un sy'n i ddisgu fe, a ceithwas fel i fishtir. Os ma dinion wedi galw mishtir i tŷ in Beelsebwl, pwy short o enwe newn nhwy alw'r rhei sy'n in i tŷ. “So peidwch câl ofon onyn nhwy. Sdim byd sy'n câl i gofro na geith i ddangos, na ddim byd in cal i gwato na fydd in dod in nabiddus. Ma beth dw i'n gweu 'thoch chi in i tewillwch, gedwch in i gole, a beth ŷch chi'n cliwed in câl i wispran, gweiddwch o do i tai. Peidwch câl ofon i rhei sy'n lladd i corff ond sy ddim in galler lladd ir ened. In hitrach ofnwch chi Dduw sy'n galler dinistro'r ened a'r corff in uffern. Senyn nhwy'n gwerthu dou aderyn i to am nesa peth i ddim? Ond wedyn weth, neith ddim un onyn nhwy gwmpo i'r ddeiar heb ich Tad chi wbod. Pan mae'n dwâd atoch chi, ma gwallt ich pen chi wedi câl u cownto. So peidwch câl ofon; ŷch chi'n werth mwy na lot o adar i to. “Ma unrhiw un sy'n in gidnabod i o flân dinion bidda i'n folon u cidnabod nhwy o flân in Dad in i nefodd. Ond ma unrhiw un sy'n in wadu i o flân dinion, bidda i ‘fyd in u gwadu nhwy o flân in Dad in i nefodd. “Pediwch meddwl bo fi wedi dwâd i ddwâd â heddwch ar i ddeiar; ddes i ddim i ddwâd â heddwch ond i ddwâd a cleddyf. Achos des i i droi dyn in erbyn i dad, rhoches in erbyn i mham, rhoces-ing-nghifreth in erbyn i mham-ing-nghifreth; a teulu dyn fydd i elynion e. Ma unrhiw yn sy'n caru i dad neu fam in fwy na fi ddim in deilwng ona i, a ma unrhiw un sy'n caru crwt neu roces in fwy na fi ddim in deilwng ona i. Ma urhiw un sy ddim in codi i grwes a'n in ddilyn i ddim in deilwng ona i. Neith unrhiw un sy'n ffindio'i fowid in i golli, a bydd unrhyw un sy'n colli i fowid ar in gownt i in i ffindio fe. Ma unrhiw un sy'n ich derbyn chi in in dderbyn i, a mae unrhiw un sy'n in dderbyn i in derbyn ir un nâth in hala i. Ma unrhiw un sy'n derbyn proffwyd achos i fod e'n broffwyd in mynd i gâl gwobor proffwyd, a ma unrhiw un sy'n derbyn dyn cifion achos i fod e'n ddyn cifion in mynd i gâl gwobor dyn cifion. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, os neith rhiwun roi cwpaned o ddŵr wer i un o'r rhei bach 'ma achos i fod e'n ddisgibil, newn nhwy ddim colli mas ar u gwobor.”