YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 13

13
1-13I dwarnod 'ny âth Iesu mas o'r tŷ a ishte ar lan i llyn, a dâth shwt growde mowr rown 'ddo fel gorffodd e fynd miwn i gwch a ishte lawr. A 'na lle we'r crowd in sefyll ar i lan. Gwedodd e lot o beth wrthyn nhwy mewn damegion, a gwud, “Âth howr mas i hou. A fel wedd e'n hou, cwpodd peth had ar bwys ir hewl, a dâth ir adarn a'i fita fe. Cwpodd peth o'r had ar ddeiar garegog lle we dim lot o bridd i gâl, a fe diddodd whap achos bo ddim dwnder pridd fan 'ny. Pan gododd ir houl fe gâs i losgi, a achos bo ddim gwriedde 'dag e fe wiwodd. Cwpodd had arall ar ddrisu; tiddodd i drisu a'i dagu fe. Cwmpodd had arall ar bridd da a rhoi crop o gant, whedeg, neu drideg inôl am bob hadyn gâth i hou. Os wes cluste 'da chi, iwwch nhwy.
Dâth i disgiblion ato fe a gweud, “Pan wit ti'n sharad 'da nhw in iwso damegion?” Atebodd e, “Ŷch chi wedi câl gwbod beth yw dirgelwch Teyrnas Nefodd, ond seno 'na wedi câl i roi iddyn nhwy. Achos i rhei sy 'da nhwy rwbeth, geith mwy i roi, a bydd digonedd 'da nhwy; ond wrth i rhei sy â dim byd, bydd hyd 'nôd beth sy 'da nhwy in câl i gwmrid bant. Na pam dw i'n sharad 'da nhwy miwn damegion, achos man nhwy'n gweld heb weld a'n cliwed heb gliwed a heb ddiall. 14-58Achos wedyn ma proffwidolieth Eseia in dwâd in wir,
‘Fe glywch chi ddigon da ond newch chi ddim diall;
fe welwch chi'n ddigon da ond newch chi ddim canfod;
achos ma meddwl i bobol wedi mynd in ddelff,
a man nhwy wedi mynd in drwm u clyw,
a man nhwy wedi cau u lliged.
Os na fidde i fel 'ny, bisen nhwy gweld 'da u lliged,
in cliwed 'da u cluste,
in diall 'da u meddile, a'n troi,
a bisen i'n u gwella nhwy.’
Ond ŷch chi'n hapus in wir‐achos ma’ch lliged chi in gweld, a’ch cluste chi in cliwed. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, ma lot o broffwydi a dinion cifon wedi bod ishe gweld beth ŷch chi'n i weld, ond nethon nhwy ddim mo'i weld e, a cliwed beth ŷch chi'n i gliwed, ond nethon nhwy ddim mo'i lgiwed e.
“Wedyn, chi, grondwch ar ddameg ir howr. Pan ma rhiwun in lciwed neges i Deyrnas a ddim in diall, ma'r un drwg in dwâd a'n dwyn beth sy wedi câ; i hou in i feddwl. Llun o hyn yw'r hyn gâs i hou ar ochor ir hewl. Ma'r had gâs i hou mewn lle caregog in llu o'r un sy'n cliwe i neges a'n i dderbyn i llawen iaw. Sdim gwreidde 'dag e a dim ond am damed bach mae e'n cadw ati, a pan bo trwbwl neu erlid in dwâd achos i neges, mae e'n cwmpo bant ar unweth. Ma'r had sy'n câl i hou in i drisu in llun o'r un sy'n cliwed i neges, ond ma gofide'r ôs a plesere cifoth in tagu'r neges, a senon dwyn ffrwyth. Ma'r had sy'n câl i hou ar dir da in llun o'r un sy'n cliwed i neges a'n i ddiall e. Fe sy'n rhoi crop a rhoi nôl cant, whedeg, neu drideg gwaith am bob hedyn gâs i hou.”
Rhoiodd e dameg arall o'u blaene nhwy, a gweud, “Ma Teyrnas Nefodd in debyg i ddyn sy'n hou had da in i barc; ond pan ma bobun in cisgu, ma'i elyn in dwâd a'n hou whyn in i parc in ganol i llafur a wedyn in mynd bant. Pna ma'r blagur in dwâd lan ma'r whyn in tiddu fyd. Dâth gweishon i ffarmwr ato a gweud, ‘Syr, wenot ti wedi hou had da in di bac? O ble ma'r whyn 'ma'n dwâd 'te?’ Gwedodd e wrthoyn nhwy, ‘Gelyn i fi nâth hyn.’ Gwedo'r gweishon wrtho, ‘Wit ti moyn inni fynd i gasglu ‘fe 'te?’ Gwedodd e, ‘Nadw, achos wrth gasglu'r whyn falle dinwch ch'r llafur lan ‘fyd. Gadwch i'r ddou diddu 'da i gily hyd nes daw i'n amser cineia, amser cineia weda i wrth i rhei sy'n casglu'r cineia, “In ginta'n deg casglwch i whyn, clwmwch e lan a'i dowlu i'r tân, ond dewch dewch â'r llafur miwn i'n sgubor i.”’”
Rhoiodd e dameg arall o'u blaene nhwy, a gweud, “Ma Teyrnas Nefod in debyg i hadyn mwstard ma dyn in mynd a'n plannu in i barc. Mae'n llai o seiz na unrhiw hadyn arall, ond pan mae'n tiddu mae'n fwy na'r plans erill a'n troi in llwyn mowr, fel bo adar ir awyr in galler dwâd a nithu in i gangene.’
Gwedodd e ddameg arall wrthyn nhwy: “Ma Teyrnas Dduw 'run peth â'r berem nâth minyw i gwmrid a'i gwato mewn lot o fflwr nes bo fe wedi mynd trw'r fflwr i gyd.”
Gwedo Iesu'r pethe 'ma i gyd wrth i crowd miwn damegion; heb ddameg wede fe ddim byd wrthyn nhwy. We hyn in digwydd fel bo beth wedo'r proffwyd in dwâd in wir,
“Agrora i'n ben miwn damegion,
Na i sharad in uchel am bethe sy wedi câl u cwato 'ddar creu'r byd.”
Wedyn gadodd e'r crowde a dwâd miwn i'r tŷ; a dâth i ddisgiblion ato fe, a gweyd, “Egsbelina i ni beth we istyr dameg i whyn in i parc.” Atebodd e, “Ir un sy'n hou yw Crwt i Dyn. I parc yw'r byd. Ma'r had da in llun o'r rhei sy'n perthyn i'r Deyrnas; i whyn yw'r rhei sy'n perthyn i'r un drwg; i gelyn nâth u hou nhwy yw'r jawl; mae cineia in llun o ddiwedd ir ôs; i gweishon yw'r angilion. Fel ma'r whyn in câl i gasglu a'i losgi in i tân, fel 'ny bydd i ar ddiwedd ir ôs. Bydd Crwt i Dyn in hala i angilion, a newn nhwy gasglu mas o'i Deyrnas e bopeth sy'n hala pobol i gwmpo bant a bobun sy'n acto'n ddihid, a'u townlu nhwy in i ffwnres danllyd; bydd boichen a crenshan dane fan 'ny. Wedi bydd i rhei cifion in sheino fel ir houl in Teyrnas u Tad nhwy. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.
“Ma Teyrnas Nefoddd in debyg i drisor sy'n câl i gwato miwn parc, a ma dyn in i ffindo fe a'n i gwato. In i lawenydd mae e'n mynd bant a'n gwerthu opeth sy 'dag e fel bo fe'n galler pernu'r parc 'ny.
“Wedyn, ma Terynas Nefodd in debyg i farchnatwr in whilio am berlz pert. Wedi 'ddo ffindio un berl sy'n werth lot fowr o arian mae e'n mynd a'n gwerthu popeth arall a'n pernu'r un berl 'na.
“Wedyn, ma Teyrnas Nefodd in debyg i rwyd, sy'n câl i thowlu miwn i'r môr a'n dala pisgod o bob short. Pan mae'n llawn man nhwy'n tinnu'r rhwyd i'r lan, a'n ishte lawr a'n rhoi'r pethe da miwn padelli a'n towlu mas i pethe diwerth. Fel 'na bydd i ar ddiwedd ir ôs. Bidd angilion in hrannu'r drwg wrth i cifion, a'n u towlu nhwy miwn i'r ffwrnes danllyd; fan 'ny bydd boichen a wben a crenshan dane.
“Odych chi wedi daill i peth 'ma i gyd?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Odyn.” Wedyn gwedodd e wrthyn nhwy, “Wedyn 'te, ma pob un o'r rhei sy'n disgu'r Gifreth in dbyg i un sy'n cadw t a'n tinnu pob short o beth newy a hen mas o'i drisorfa.”
Naw pan bennodd Iesu weud i damhegion hyn fe âth e o'r lle 'ny. Dâth e i'rdre lle wedd e wedi câl i fagu a tima fe'n u disgu nhwy in u sinagog, fel bo nhwy'n câl sindod a gweud, “O ble mae e'n câl i ddoethineb 'ma a'r gweithredodd nerthol 'ma? Nage mab i sâr yw hwn? Dddim Mair yw enw i fam e, a'i frodyr yw Iago, Joseff, Simon a jwdas? A seno i wiorydd 'da ni? Wen nhwy'n sinnu ato fe. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Seno proffwyd heb i barch, ond in i dre i unan a in i dŷ i unan.’ A nâth e ddim lot o weithrdodd nerthol in i lle 'ny achos u diffyg ffydd nhwy.

Currently Selected:

Mathew 13: DAFIS

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in