YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 15:21-28

Mathew 15:21-28 DAFIS

Gado Iesu'r lle 'ny a mynd bant i ardal Tyrus a Sidon. A tima menwy Ganaaneiedd, we'n dwâd o'r ardal 'ny, in gweiddi mas, “Mishtir, Crwt Dafydd, dangos dreni wrtha i. Ma'n rhoces i'n diodde'n ofnadw 'da cithrel.” Ond nâth e ddim i hateb hi. Dâth i ddisgiblion ato a gofyn iddo fe i hala hi bant, a gweud, “Ma i'n gweiddi mas ar in hole ni.” Atebodd e, “Ces i'n hala dim ond at ddefed tŷ Isrel we ar goll.” Dâth hi a cwmpo ar i'r llawr o'i flân e, a gweud, “Mishtir, helpa fi.” Atebodd e, “Sen i'n beth iawn i fynd â bwyd i plant a'i dowlu fe i'r cŵn.” Gwedodd hi, “Ma hinny'n wir, Mishir; ond ma hyd 'nôd i cŵn in câl bita’ briwshon sy'n cwmpo o ford u mhishtir.” Wedyn wedo Iesu wrth i fenyw, “O 'na ffydd fowr sy 'da ti! Geith beth wit ti moyn i neud.” A gâs i rhoces hi i gwella o'r funud 'na.