YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 19:1-30

Mathew 19:1-30 DAFIS

Nawr pan we Iesu wedi pennu gweud i pethe 'ma, gadodd e Galilea a dod i wlad Jwdea ochor arall i afon Iorddonen. Dilino crowde mowr e, a nâth e wella nhwy fan 'ny. Dâth Ffariseied ato fe i desto fe a gofyn, “Ody 'ddi iawn i ddyn ddiforso'i wraig o gwbl?” Atebodd e, “Senoch chi wedi darllen fod i Creawdwr o'r dachre wedi neud dinion in wrwod a menwod, a'i fod e wedi gweud, “Achos hyn bydd dyn in gadel i dad a'i fam a mynd at i wraig, a bydd i ddou in mynd in un”? So wedyn 'te, ddim dou o nhwy sy, ond un. Wedyn ddile dyn ddim rhannu beth ma Duw wedi rhoi at i gily.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Pam roiodd Moses ordros i roi papure difors a'i hala hi bant?” Gwedodd e wrthyn nhyw, “We Moses in gwbod faint mor gled we’ch calone chi a nâth e adel ichi ddiforso’ch gwragedd; ond ddim fel 'na wedd i o'r dachre. Dw i'n gweu 'thoch chi os ma dyn in diforso'i wraig, ond am achos i bod hi wedi bod 'da dyn arall, a'n priodi rhiwun arall, mae e'n godinebu.” Gwedodd i ddisgiblion wrtho fe, “Os 'na shwt ma pethe rhynt gŵr a gwraig, wedyn ma i'n well peido priodi in i lle cinta.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Sdim bob un in folon derbyn hyn, dim ond i rhei mae e wedi'i roi iddyn nhwy; achos ma 'na eunuchied i gâl sy wedi bod fel 'ny 'ddar iddyn nhwy gâl u geni, a ma 'na eunuchied erill sy wedi câl i neud in eunuchied trw law dinion, a ma 'na eunuchied erill sy wedi neud u hunen in eunuchied er mwyn Teyrnas Nefodd. Gadwch i bobun sy'n galler derbyn hyn i dderbyn e.” Wedyn dethon nhwy â plant ato fe fel galle fe roi'i ddwylo arnyn nhwy a gweddïo; ond sharadodd i disgiblion in sharp 'da'r rhei wen dwâd â nhwy. Ond gwedo Iesu, “Gadwch i'r plant fod. Peidwch stopop nhwy ddwâd ata i, achos rhei fel hyn sy pia Teyrnas Nefodd.” Rhoiodd e i ddwylo arnyn nhwy a wedyn âth e mlân. Dâth dyn a gweu 'tho fe, “Mishtir, pwy beth da sy ishe ifi neud i gâl byw am byth?” Gwedodd e wrtho, “Pam wit ti'n gofyn i fi obitu beth sy'n dda? Dim ond Un sy'n dda. Os wit ti ishe mind miwn i fowid, cadwa'r gorchminion.” Gwedodd e wrtho, “Pwy rei?” Atebo Iesu, “Paid lladd, Paid godinebu, Paid dwyn, Paid gweud celwy am ddinion, Dricha ar ôl di dad a di fam; a, Rhaid iti garu di gwmwdog fel ti di ‘unan.” Gwedo'r dyn ifanc wrtho fe, “Dwi wedi cadw'r pethe 'ma i gyd; beth arall sy ishe arna i?” Gwedo Iesu wrtho, “Os wit ti ishe bod in berffeth, cer a gwertha popeth sy 'da ti a rho'r arian i'r bobol lwm, a bydd trisor 'da ti in i nefodd; wedyn dere a'n ddilyn i.” Ond pan gliwo'r crwt ifanc fe'n gweud hyn, bant ag e in drist; achos wedd e'n berchen ar lot fowr o bethe. Gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch ch, bydd i'n galed iawn i ddyn cifoethog fynd miwn i Deyrnas Nefodd. Dwi'n gweu 'tho chi siwrne 'to, mae'n rhwyddach i gamel fynd trwy groi nedwy na yw hi i ddyn cifoethog fynd miwn i Deyrnas Duw.” Gath i disgiblion sindod mowr i gliwed hyn, a gweud, “Pwy wedyn 'te gall gâl i achub?” Drichodd Iesu arnyn nhw a gweud, “So'r peth in bosib 'da dinion, ond 'da Duw ma popeth in bosib.” Wedyn gwedodd Pedr, “Beth amdnon ni? Ŷn ni wedi gadel popeth i di ddilyn di. Beth gewn ni?” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoc chi, pan bydd popeth in câl i neud in newy, pan bydd Crwt i Dyn in ishte ar i orsedd wych, biddwch chi sy wedi'n ddilyn i in ishter ar ddouddeg gorsedd, in barnu douddeg llwyth Isrel. A bydd unrhyw un sy wedi gael tai, brodyr, whiorydd, tad, mam, plant neu dirodd in in enw i in câl canweth gwmint nôl a bowid am byth. Bydd lot o'r rhei sy ginta in ddwetha, a'r dwetha in ginta.