Amos 9:13-14
Amos 9:13-14 BCND
“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi, a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had; bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a phob bryn yn llifo ohono. Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel, ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt; plannant winllannoedd ac yfed eu gwin, palant erddi a bwyta'u cynnyrch.