YouVersion Logo
Search Icon

Colosiaid 3

3
1Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. 2Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. 3Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. 4Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi#3:4 Neu, ein bywyd ni., yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
5Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth. 6O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd. 7Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol. 8Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau. 9Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd, 10ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr. 11Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth.
12Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. 13Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. 14Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. 15Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. 16Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. 17Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Dyletswyddau Cymdeithasol y Bywyd Newydd
18Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd. 19Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt.
20Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd. 21Chwi dadau, peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni.
22Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd. 23Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall. 24Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi. 25Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn ôl; nid oes ffafriaeth.

Currently Selected:

Colosiaid 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in