Daniel 2:20-22
Daniel 2:20-22 BCND
“Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd; eiddo ef yw doethineb a nerth. Ef sy'n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer, yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus. Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig, yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll; gydag ef y trig goleuni.