YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 13

13
Proffwydo yn erbyn Proffwydi
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, proffwyda yn erbyn proffwydi Israel sy'n proffwydo; a dywed wrth y rhai sy'n proffwydo o'u meddyliau eu hunain, ‘Gwrandewch air yr ARGLWYDD.’ 3Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r proffwydi ynfyd sy'n dilyn eu hysbryd eu hunain ac sydd heb weld dim! 4Bu dy broffwydi, O Israel, fel llwynogod mewn adfeilion. 5Nid aethoch i fyny i'r bylchau, ac adeiladu'r mur i dŷ Israel, er mwyn iddo sefyll yn y frwydr ar ddydd yr ARGLWYDD. 6Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair. 7Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?
8“Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am ichwi lefaru'n dwyllodrus a chael gweledigaethau celwyddog, yr wyf fi yn eich erbyn, medd yr Arglwydd DDUW. 9Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tŷ Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
10“Am iddynt arwain fy mhobl ar gyfeiliorn a dweud, ‘Heddwch’, er nad oedd heddwch, y maent yn codi wal simsan ac yn ei dwbio â gwyngalch. 11Dywed wrth y rhai sy'n ei gwyngalchu y bydd yn cwympo; daw glaw yn llifeiriant, paraf i'r cenllysg ddisgyn, a bydd gwyntoedd stormus yn rhwygo. 12Pan fydd y mur yn cwympo, oni ofynnir i chwi, ‘Ymhle mae'r gwyngalch a roesoch?’? 13Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn fy nig gwnaf i wynt stormus rwygo, yn fy llid daw glaw yn llifeiriant, ac yn fy nig daw cenllysg i'w dinistrio. 14Chwalaf y mur a wyngalchwyd, a'i wneud yn wastad â'r llawr a dinoethi ei sylfaen. A phan syrth o'ch cwmpas, fe'ch dinistrir; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 15Byddaf yn gweithredu fy nig yn erbyn y mur ac yn erbyn y rhai a fu'n ei wyngalchu, a dywedaf wrthych, ‘Darfu am y mur ac am y rhai a fu'n ei wyngalchu, 16sef proffwydi Israel, a broffwydodd wrth Jerwsalem a chael gweledigaethau o heddwch, er nad oedd heddwch, medd yr Arglwydd DDUW.’
17“A thithau, fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, sy'n proffwydo o'u meddyliau eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn 18a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r gwragedd sy'n gwau breichledau hud ar bob garddwrn, ac yn gwneud gorchudd o bob maint ar y pen, er mwyn rhwydo bywydau pobl. A fyddwch yn rhwydo bywydau fy mhobl, ond yn cadw eich bywydau eich hunain yn ddiogel? 19Yr ydych wedi fy halogi i ymysg fy mhobl er mwyn dyrneidiau o haidd a thameidiau o fara. Yr ydych wedi lladd y rhai na ddylent farw, ac wedi arbed bywyd y rhai na ddylent fyw, trwy eich celwyddau wrth fy mhobl, sy'n gwrando ar gelwydd. 20Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn erbyn eich breichledau hud, yr ydych â hwy yn rhwydo bywydau fel adar, a thorraf hwy oddi ar eich breichiau; gollyngaf yn rhydd y bywydau yr ydych yn eu rhwydo fel adar. 21Torraf ymaith eich gorchuddion, a gwaredaf fy mhobl o'ch dwylo, ac ni fyddant eto yn ysglyfaeth yn eich dwylo; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. 22Am ichwi ddigalonni'r cyfiawn â'ch twyll, er nad oeddwn i'n ei niweidio, ac am ichwi gefnogi'r drygionus, rhag iddo droi o'i ffordd ddrwg ac arbed ei fywyd, 23felly ni fyddwch yn cael gweledigaethau twyllodrus eto nac yn ymarfer dewiniaeth. Byddaf yn gwaredu fy mhobl o'ch dwylo, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Currently Selected:

Eseciel 13: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in