Hosea 10
10
Cosb Duw ar Israel
1Gwinwydden doreithiog#10:1 Neu, wael. oedd Israel,
a'i ffrwyth yr un fath â hi.
Fel yr amlhaodd ei ffrwyth,
amlhaodd yntau allorau;
fel y daeth ei dir yn well,
gwnaeth yntau ei golofnau yn well.
2Aeth eu calon yn ffals,
ac yn awr y maent yn euog.
Dryllia ef eu hallorau,
a difetha'u colofnau.
3Yn awr y maent yn dweud,
“Nid oes inni frenin,
am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD,
a pha beth a wnâi brenin i ni?”
4Llefaru geiriau y maent,
a gwneud cyfamod â llwon ffals.
Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllyd
yn rhychau'r maes.
5Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo#10:5 Hebraeg, lloi. Beth-afen.
Y mae ei bobl yn galaru amdano,
a'i eilun-offeiriaid yn wylofain#10:5 Hebraeg, gorfoleddu. amdano,
am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.
6Fe'i dygir ef i Asyria,
yn anrheg i frenin mawr#10:6 Hebraeg, i frenin Jareb. Neu, i frenin a ymryson..
Gwneir Effraim yn warth
a chywilyddia Israel oherwydd ei eilun#10:6 Hebraeg, gyngor ei..
7Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd.
8Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel;
tyf drain a mieri ar eu hallorau;
a dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni”,
ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom”.
9“Er dyddiau Gibea pechaist, O Israel;
safasant yno mewn gwrthryfel.
Oni ddaw rhyfel arnynt yn Gibea?
10Dof i'w cosbi,
a chasglu pobloedd yn eu herbyn,
pan gaethiwir hwy am eu drygioni deublyg.
11“Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim;
y mae'n hoff o ddyrnu;
gosodaf iau ar ei gwar deg,
a rhof Effraim mewn harnais;
bydd Jwda yn aredig,
a Jacob yn llyfnu iddo.
12Heuwch gyfiawnder,
a byddwch yn medi ffyddlondeb;
triniwch i chwi fraenar;
y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD,
iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.
13“Buoch yn aredig drygioni,
yn medi anghyfiawnder,
ac yn bwyta ffrwyth celwydd.
“Am iti ymddiried yn dy ffordd,
ac yn nifer dy ryfelwyr,
14fe gwyd terfysg ymysg dy bobl,
a dinistrir dy holl amddiffynfeydd,
fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel,
a dryllio'r fam gyda'i phlant.
15Felly y gwneir i chwi, Bethel,
oherwydd eich drygioni mawr;
gyda'r wawr torrir brenin Israel i lawr.”
Currently Selected:
Hosea 10: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

:
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004