YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 13

13
Yn Erbyn Babilon
1Yr oracl am Fabilon; yr hyn a welodd Eseia fab Amos.
2Dyrchafwch faner ar fynydd moel,
codwch lef tuag atynt;
amneidiwch â'ch dwylo
iddynt ddod i mewn i byrth y pendefigion.
3Gorchmynnais i'r rhai a gysegrais;
ie, gelwais ar fy ngwŷr cedyrn i weithredu fy nicter,
y rhai sy'n falch o'm gorchest.
4Clywch, sŵn tyrfa ar y mynyddoedd,
fel pobloedd heb rifedi!
Clywch, dwndwr teyrnasoedd,
fel cenhedloedd wedi eu crynhoi.
ARGLWYDD y Lluoedd sydd yn cynnull
y llu ar gyfer brwydr.
5Dônt o wlad bell,
o eithaf y nefoedd—
offer llid yr ARGLWYDD
i ddifa'r holl dir.
6Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;
daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
7Am hynny fe laesa'r holl ddwylo,
a bydd pob calon yn toddi gan fraw.
8Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt;
byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor.
Edrychant yn syn ar ei gilydd,
a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.
9Wele, daw dydd yr ARGLWYDD,
yn greulon gan ddigofaint a llid,
i wneud y ddaear yn ddiffaith
a dileu ei phechaduriaid ohoni.
10Bydd sêr y nefoedd a'u planedau
yn atal eu goleuni;
tywylla'r haul ar ei godiad,
ac ni oleua'r lloer â'i llewyrch.
11Cosbaf y byd am ei bechod,
a'r drygionus am eu camwedd;
gwnaf i falchder y beiddgar beidio,
gostyngaf ymffrost y trahaus.
12Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth,
a'r ddynoliaeth nag aur Offir.
13Am hynny fe gryna'r#13:13 Felly Groeg. Hebraeg, paraf grynu'r. nefoedd
ac ysgydwir y ddaear o'i lle,
oherwydd digofaint ARGLWYDD y Lluoedd
yn nydd angerdd ei lid.
14Fel ewig wedi ei tharfu,
fel praidd heb neb i'w corlannu,
bydd pawb yn troi at ei dylwyth,
a phob un yn ffoi i'w gynefin.
15Trywenir pob un a geir,
a lleddir â'r cleddyf bob un a ddelir.
16Dryllir eu plant o flaen eu llygaid,
ysbeilir eu tai, treisir eu gwragedd.
17Wele, yr wyf yn cyffroi yn eu herbyn y Mediaid,
rhai nad yw arian yn cyfrif ganddynt,
ac na roddant bris ar aur.
18Dryllia'u bwâu y gwŷr ifanc;
ni thosturiant wrth ffrwyth y groth,
nac edrych yn drugarog ar blant.
19A bydd Babilon, yr odidocaf o'r teyrnasoedd,
a gogoniant ysblennydd y Caldeaid,
fel Sodom a Gomorra
wedi i Dduw eu dinistrio.
20Ni chyfanheddir hi o gwbl,
na phreswylio ynddi dros y cenedlaethau;
ni phabella'r Arab o'i mewn,
ac ni chorlanna'r bugail ynddi.
21Ond bydd anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yno;
llenwir hi gan ffeuau i greaduriaid swnllyd;
bydd yr estrys yn trigo yno, a bychod yn llamu yno;
22bydd y siacal yn cyfarth yn ei thyrau,
a'r hiena yn ei phlastai hyfryd.
Y mae ei hamser wrth law,
ac nid estynnir ei dyddiau.

Currently Selected:

Eseia 13: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in