Jeremeia 25
25
Y Gelyn o'r Gogledd
1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon. 2Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud, 3“o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch. 4Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando, 5pan ddywedwyd, ‘Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd. 6Peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch â'm digio â gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.’ 7Ond ni wrandawsoch arnaf,” medd yr ARGLWYDD, “ond fy nigio â gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.
8“Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, 9yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth. 10Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern. 11Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain. 12Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth. 13Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. 14Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.’ ”
Barn Duw ar y Cenhedloedd
15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: “Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt. 16Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith.” 17Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt: 18Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw; 19hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl, 20a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod; 21Edom a Moab a phobl Ammon; 22holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y môr; 23Dedan a Tema a Bus; pawb sydd â'u talcennau'n foel; 24holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch; 25holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media; 26holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar ôl y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach#25:26 H.y., Babilon. a gaiff yfed ar eu hôl hwy.
27“Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.’ 28Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed. 29Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.’ 30Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud,”
“Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder;
o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef;
rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle;
gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin,
yn erbyn holl breswylwyr y tir.
31Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd,
canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd,
ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd,
ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.”
32Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:
“Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall;
cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.”
33“Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.”
34Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch;
ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd;
canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru,
ac fe gwympwch fel llydnod#25:34 Felly Groeg. Hebraeg, fel llestri. dethol.
35Collir lloches gan y bugeiliaid,
a dihangfa gan bendefigion y praidd.
36Clyw gri'r bugeiliaid,
a nâd pendefigion y praidd!
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;
37dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
38Fel llew, gadawodd ei loches;
aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr,
a llid digofaint yr ARGLWYDD.
Currently Selected:
Jeremeia 25: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: