Lefiticus 17
17
Gwahardd Cymryd Gwaed
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth Aaron a'i feibion a holl bobl Israel, ‘Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD. 3Os bydd unrhyw un o dŷ Israel a fydd yn lladd bustach, oen neu afr yn y gwersyll, neu'r tu allan iddo, 4a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w gyflwyno'n rhodd i'r ARGLWYDD o flaen y tabernacl, y mae hwnnw yn cael ei ystyried yn euog o waed; y mae hwnnw wedi tywallt gwaed, ac y mae i'w dorri ymaith o blith ei bobl. 5Y mae hyn er mwyn i bobl Israel ddod â'r aberthau a offrymant yn awr yn y meysydd agored, a'u cyflwyno i'r ARGLWYDD trwy'r offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod; y maent i'w haberthu yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD. 6Bydd yr offeiriad yn lluchio'r gwaed ar allor yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod, ac yn llosgi'r braster yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. 7Nid ydynt i offrymu eu haberthau i'r gafr-ddelwau y buont yn puteinio ar eu holau. Y mae hyn yn ddeddf dragwyddol iddynt dros y cenedlaethau.’
8“Dywed wrthynt, ‘Bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, a fydd yn offrymu poethoffrwm neu aberth, 9a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w aberthu i'r ARGLWYDD, y mae hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.
10“ ‘Os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl. 11Oherwydd y mae bywyd y corff yn y gwaed, ac fe'i rhoddais ichwi i wneud cymod drosoch eich hunain ar yr allor; y gwaed sy'n gwneud cymod dros fywyd. 12Dyma pam y dywedais wrth bobl Israel, “Nid yw'r un ohonoch chwi, nac unrhyw estron sy'n byw yn eich mysg, i fwyta gwaed.”
13“ ‘Y mae unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, sy'n hela anifail neu aderyn y gellir ei fwyta, i dywallt ei waed a'i orchuddio â phridd, 14oherwydd y mae bywyd pob corff yn y gwaed. Dyna pam y dywedais wrth bobl Israel, “Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur”, oherwydd y mae bywyd pob corff yn ei waed; y mae unrhyw un sy'n ei fwyta i'w dorri ymaith.
15“ ‘Y mae unrhyw un, boed frodor neu estron, sy'n bwyta rhywbeth wedi marw neu ei larpio gan anifail, i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân. 16Os na fydd yn golchi ei ddillad nac yn ymolchi, bydd yn gyfrifol am ei drosedd.’ ”
Currently Selected:
Lefiticus 17: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: