YouVersion Logo
Search Icon

Micha 6

6
Achos yr ARGLWYDD yn erbyn Israel
1Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD:
“Cod, dadlau dy achos o flaen y mynyddoedd,
a bydded i'r bryniau glywed dy lais.
2Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd,
chwi gadarn sylfeini'r ddaear;
oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl,
ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.
3O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?
Sut y blinais di? Ateb fi.
4Dygais di i fyny o'r Aifft,
gwaredais di o dŷ'r caethiwed,
a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.
5O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab,
a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef,
a hefyd y daith o Sittim i Gilgal,
er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”
6Â pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD,
a phlygu gerbron y Duw uchel?
A ddof ger ei fron â phoethoffrymau,
neu â lloi blwydd?
7A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod
neu ar fyrddiwn o afonydd olew?
A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd,
fy mhlant fy hun am fy mhechod?
8Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,
a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:
dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch,
ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.
Euogrwydd Israel a'i Chosb
9Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—
y mae llwyddiant o ofni ei enw:
“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas#6:9 Cymh. Groeg. Hebraeg yn ansicr..
10A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr,
a'r mesur prin sy'n felltigedig?
11A oddefaf gloriannau twyllodrus,
neu gyfres o bwysau ysgafn?
12Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,
a'i thrigolion yn dweud celwydd,
a thafodau ffals yn eu genau.
13Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,
i'th anrheithio am dy bechodau:
14byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,
a bydd y bwyd yn pwyso#6:14 Hebraeg yn ansicr. ar dy stumog;
byddi'n cilio, ond heb ddianc,
a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;
15byddi'n hau, ond heb fedi,
yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew,
a gwinwydd, ond heb yfed gwin.
16Cedwaist#6:16 Felly Fersiynau. Hebraeg, Cadwodd. ddeddfau Omri,
a holl weithredoedd tŷ Ahab,
a dilynaist eu cynghorion,
er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith
a'th drigolion#6:16 Hebraeg, a'i thrigolion. yn gyff gwawd;
a dygwch ddirmyg y bobl#6:16 Felly Fersiynau. Hebraeg, fy mhobl..”

Currently Selected:

Micha 6: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in