YouVersion Logo
Search Icon

Nahum 1

1
Barn Duw ar Ninefe
1Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.
2Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD;
y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid;
y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr,
ac yn dal dig at ei elynion.
3Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth,
ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb.
Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl,
a llwch ei draed yw'r cymylau.
4Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu,
ac yn gwneud pob afon yn hesb;
gwywa Basan a Charmel,
a derfydd gwyrddlesni Lebanon.
5Cryna'r mynyddoedd o'i flaen,
a thodda'r bryniau;
difrodir y ddaear o'i flaen,
y byd a phopeth sy'n byw ynddo.
6Pwy a saif o flaen ei lid?
Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig?
Tywelltir ei lid fel tân,
a dryllir y creigiau o'i flaen.
7Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng;
y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
8Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr#1:8 Felly Groeg. Hebraeg, ei lle.,
ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.
9Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD?
Gwna ef ddiwedd llwyr,
fel na ddaw blinder ddwywaith.
10Fel perth o ddrain fe'u hysir,
fel diotwyr â'u diod,
fel sofl wedi sychu'n llwyr.
11Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwynio
drygioni yn erbyn yr ARGLWYDD
cynghorwr dieflig.
12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Er eu bod yn gyflawn a niferus,
eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant.
Er imi dy flino,
ni flinaf di mwyach.
13Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat,
a thorraf dy rwymau.”
14Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat:
“Ni fydd had o'th hil mwyach;
torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau;
a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”
15 # 1:15 Hebraeg, 2:1. Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd
yn cyhoeddi heddwch.
Dathla dy wyliau, O Jwda,
tâl dy addunedau,
oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto;
fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.

Currently Selected:

Nahum 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in