YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 16

16
1Pobl biau trefnu eu meddyliau,
ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw ateb y tafod.
2Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.
3Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD,
a chyflawnir dy gynlluniau.
4Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas,
hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.
5Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch;
y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.
6Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd,
a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.
7Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,
gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.
8Gwell ychydig gyda chyfiawnder
nag enillion mawr heb farn.
9Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,
ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.
10Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;
nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.
11Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;
a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.
12Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,
oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.
13Hyfrydwch brenin#16:13 Felly Groeg. Hebraeg, brenhinoedd. yw genau cyfiawn,
a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.
14Y mae llid brenin yn gennad angau,
ond fe'i dofir gan yr un doeth.
15Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,
ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
16Gwell nag aur yw ennill doethineb,
a gwell dewis deall nag arian.
17Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni,
a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.
18Daw balchder o flaen dinistr,
ac ymffrost o flaen cwymp.
19Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus
na rhannu ysbail gyda'r balch.
20Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,
a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.
21Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus,
a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.
22Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog,
ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.
23Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,
ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.
24Y mae geiriau teg fel diliau mêl,
yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.
25Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,
ond sy'n arwain i farwolaeth.
26Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,
a'i enau sy'n ei annog ymlaen.
27Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;
y mae fel tân poeth ar ei wefusau.
28Y mae rhywun croes yn creu cynnen,
a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.
29Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,
ac yn ei arwain ar ffordd wael.
30Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,
a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.
31Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;
fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.
32Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,
a rheoli tymer na chipio dinas.
33Er bwrw'r coelbren i'r arffed,
oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.

Currently Selected:

Diarhebion 16: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in