YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 20

20
1Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn;
nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.
2Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc;
y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.
3Clod i bob un yw gwrthod cweryla,
ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.
4Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref;
eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.
5Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion,
ond gall dyn deallus ei dynnu allan.
6Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar,
ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir;
gwyn eu byd ei blant ar ei ôl!
8Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn
yn gallu nithio pob drwg â'i lygaid.
9Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl;
yr wyf yn lân o'm pechod”?
10Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,
y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
11Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc
a yw ei waith yn bur ac yn uniawn.
12Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,
yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.
13Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;
cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14“Gwael iawn,” meddai'r prynwr;
ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15Y mae digonedd o aur ac o emau,
ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,
a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,
ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.
18Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;
rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;
paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.
20Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,
diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,
ni bydd bendith ar ei diwedd.
22Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;
disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,
ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;
sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,
ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.
26Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,
ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,
i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,
a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.
29Gogoniant yr ifainc yw eu nerth,
ac addurn i'r hen yw penwynni.
30Y mae taro i'r byw yn gwella drwg,
a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.

Currently Selected:

Diarhebion 20: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in