YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 27

27
1Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory,
oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
2Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun;
un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.
3Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,
ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.
4Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,
ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?
5Y mae cerydd agored
yn well na chariad a guddir.
6Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,
ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.
7Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl,
ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw.
8Fel aderyn yn crwydro o'i nyth,
felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.
9Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon,
a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid.
10Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni,
a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd.
Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
11Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon;
yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu.
12Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,
ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
13Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,
a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
14Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,
ac yn codi'n fore i wneud hynny,
yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.
15Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,
tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;
16y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,
neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.
17Y mae haearn yn hogi haearn,
ac y mae pob un yn hogi meddwl#27:17 Neu, wyneb. ei gyfaill.
18Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,
a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.
19Fel yr adlewyrchir wyneb mewn dŵr,
felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn.
20Ni ddigonir Sheol nac Abadon,
ac ni ddiwellir llygaid neb ychwaith.
21Y mae tawddlestr i'r arian, a ffwrnais i'r aur,
felly y profir cymeriad gan ganmoliaeth.
22Er iti bwyo'r ffôl â phestl mewn morter
yn gymysg â'r grawn mân,
eto ni elli yrru ei ffolineb allan ohono.
23Gofala'n gyson am dy braidd,
a rho sylw manwl i'r ddiadell;
24oherwydd nid yw cyfoeth yn para am byth,
na choron o genhedlaeth i genhedlaeth.
25Ar ôl cario'r gwair, ac i'r adladd ymddangos,
a chasglu gwair y mynydd,
26yna cei ddillad o'r ŵyn,
a phris y tir o'r bychod geifr,
27a bydd digon o laeth geifr yn ymborth i ti a'th deulu,
ac yn gynhaliaeth i'th forynion.

Currently Selected:

Diarhebion 27: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in