YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 106

106
1Molwch yr ARGLWYDD.
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
2Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr ARGLWYDD,
neu gyhoeddi ei holl foliant?
3Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn,
ac yn gwneud cyfiawnder bob amser.
4Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl;
ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu,
5imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi,
a llawenhau yn llawenydd dy genedl,
a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.
6Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu;
yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.
7Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifft
ni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,
na chofio maint dy ffyddlondeb,
ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf#106:7 Cymh. Groeg. Hebraeg, wrth y môr. ger y Môr Coch.
8Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,
er mwyn dangos ei rym.
9Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,
ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.
10Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,
a'u harbed o law'r gelyn.
11Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr,
ac nid arbedwyd yr un ohonynt.
12Yna credasant ei eiriau,
a chanu mawl iddo.
13Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd,
ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.
14Daeth eu blys drostynt yn yr anialwch,
ac yr oeddent yn profi Duw yn y diffeithwch.
15Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn,
ond anfonodd nychdod i'w mysg.
16Yr oeddent yn cenfigennu yn y gwersyll wrth Moses,
a hefyd wrth Aaron, un sanctaidd yr ARGLWYDD.
17Yna agorodd y ddaear a llyncu Dathan,
a gorchuddio cwmni Abiram.
18Torrodd tân allan ymhlith y cwmni,
a llosgwyd y drygionus yn y fflamau.
19Gwnaethant lo yn Horeb,
ac ymgrymu i'r ddelw,
20gan newid yr un oedd yn ogoniant iddynt
am ddelw o ych yn pori gwellt.
21Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,
a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,
22pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,
a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.
23Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,
oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,
sefyll yn y bwlch o'i flaen,
i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.
24Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,
ac nid oeddent yn credu ei air;
25yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,
a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.
26Cododd yntau ei law a thyngu
y byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,
27ac yn gwasgaru#106:27 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn peri syrthio. eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,
a'u chwalu trwy'r gwledydd.
28Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,
a bwyta ebyrth y meirw;
29yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,
a thorrodd pla allan yn eu mysg.
30Ond cododd Phinees a'u barnu,
ac ataliwyd y pla.
31A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddo
dros y cenedlaethau am byth.
32Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba,
a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,
33oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw,
ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.
34Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloedd
y dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,
35ond cymysgu gyda'r cenhedloedd,
a dysgu gwneud fel hwythau.
36Yr oeddent yn addoli eu delwau,
a bu hynny'n fagl iddynt.
37Yr oeddent yn aberthu eu meibion
a'u merched i'r demoniaid.
38Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,
gwaed eu meibion a'u merched
yr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;
a halogwyd y ddaear â'u gwaed.
39Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,
ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,
a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
41rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,
a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;
42fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,
a'u darostwng dan eu hawdurdod.
43Lawer gwaith y gwaredodd hwy,
ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,
ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.
44Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngder
pan glywodd eu cri am gymorth;
45cofiodd ei gyfamod â hwy,
ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46parodd iddynt gael trugaredd
gan bawb oedd yn eu caethiwo.
47Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw,
a chynnull ni o blith y cenhedloedd,
inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd,
ac ymhyfrydu yn dy fawl.
48Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb;
dyweded yr holl bobl, “Amen.”
Molwch yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

Y Salmau 106: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in