YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 128

128
Cân Esgyniad.
1Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD
ac yn rhodio yn ei ffyrdd.
2Cei fwyta o ffrwyth dy lafur;
byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
3Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷ
fel gwinwydden ffrwythlon,
a'th blant o amgylch dy fwrdd
fel blagur olewydd.
4Wele, fel hyn y bendithir y sawl
sy'n ofni'r ARGLWYDD.
5Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion,
iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem
holl ddyddiau dy fywyd,
6ac iti gael gweld plant dy blant.
Bydded heddwch ar Israel!

Currently Selected:

Y Salmau 128: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in